Defnyddio eich cerbyd eich hun  

 

English Language Version : Using your own transport 

 

Mae’r adran hon yn trafod y materion sy’n wynebu pobl sy’n gyrru eu cerbyd eu hunain, ac yn canolbwyntio’n bennaf ar y materion sy’n wynebu pobl anabl mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft wrth barcio. Mwy o wybodaeth am ymgeisio neu gadw trwydded yrru ar sail oedran neu anabledd.

On this page

 

Parcio

Ar hyn o bryd, mae nifer o gynlluniau ‘bathodyn glas’ ledled y DU sy’n cynnig pob math o fuddion parcio i bobl anabl sy’n teithio naill ai fel gyrwyr neu deithwyr.

Mae’r buddion hyn yn ymwneud â pharcio ar y stryd, gan gynnwys defnyddio’r mesuryddion parcio a chilfachau talu ac arddangos am ddim. Mae’n bosibl hefyd nad oes raid i ddeiliaid bathodyn glas gadw at y terfynau amser parcio sy’n berthnasol i bawb arall, ac y gallant barcio ar linellau melyn sengl am hyd at dair awr cyn belled nad ydynt yn achosi rhwystr (heblaw am leoedd â gwaharddiad llwytho neu ddadlwytho neu waharddiadau eraill).

Gallech fod yn gymwys:

  • os ydych yn derbyn elfen symudedd Lwfans Byw i’r Anabl (cyfradd uwch)
  • os ydych yn derbyn atodiad symudedd pensiwn rhyfel
  • os ydych yn defnyddio cerbyd modur a gyflenwyd gan adran iechyd y llywodraeth
  • os ydych wedi eich cofrestru’n ddall
  • os oes gennych chi anabledd difrifol yn y ddwy fraich a’ch bod yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd, ond ddim yn gallu troi’r llyw â llaw, hyd yn oed os oes dolen droi ar y llyw, neu
  • os oes gennych chi anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu na allwch chi gerdded neu’ch bod yn cael cryn drafferth i gerdded.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Directgov.


Back to top^  

Camddefnyddio cilfachau parcio

Mae’n drosedd parcio cerbyd mewn cilfach barcio Bathodyn Glas, heb ddangos bathodyn. Os ydych chi’n gweld cerbyd wedi’i barcio’n amhriodol, dywedwch wrth warden traffig (neu swyddog gorfodi traffig), yr heddlu lleol neu’r cyngor lleol (sy’n gyfrifol am ddosbarthu bathodynnau).

Mae gan swyddogion yr heddlu, wardeiniaid traffig, swyddogion parcio awdurdod lleol a swyddogion gorfodi sifil yr hawl i archwilio Bathodynnau Glas. Mae’n drosedd i wrthod neu fethu â dangos bathodyn i’w archwilio, heb esgus rhesymol. Gallech wynebu hyd at £1,000 o ddirwy.


Back to top^  

Cilfachau parcio ‘oddi ar y stryd’ i bobl anabl, fel archfarchnadoedd

Nid yw’r rhan fwyaf o gilfachau parcio i bobl anabl mewn meysydd parcio oddi ar y stryd (fel meysydd parcio archfarchnadoedd) yn rhan o reoliadau’r cynllun Bathodyn Glas. Mae’r meysydd parcio a’r cilfachau parcio hyn yn debygol o fod yn nwylo preifat ac yn cael eu rheoli gan fusnesau unigol. Cytundeb rhwng y perchennog a’r modurwyr/cwsmeriaid yw’r lleoedd parcio hyn, ac unrhyw gostau i’w defnyddio.

Os ydych chi’n fodurwr neu’n deithiwr anabl, ac yn cwyno wrth archfarchnad, er enghraifft, bod modurwr nad yw’n anabl wedi parcio mewn cilfach i bobl anabl, yna gall un o weithwyr y siop ofyn i’r gyrrwr symud y car o’r gilfach hon. Ond ni all fynnu ei fod yn symud, o dan y gyfraith.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y grŵp ymgyrchu Baywatch.


Back to top^