Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus  

 

English Language Version : Using public transport 

 

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ystyried eu polisïau, arferion a gweithdrefnau er mwyn sicrhau nad yw neb yn dioddef gwahaniaethu neu dan anfantais wrth deithio.  Mae deddfau fel y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu cerbydau a llongau gan gynnwys:

  • cerbydau i’w llogi hyd at faint arbennig
  • cerbydau llog preifat, fel minicabiau 
  • cerbydau gwasanaethau cyhoeddus, fel bysiau a choetsys 
  • cerbydau rheilffordd (gan gynnwys rhai tanddaearol)
  • pob tacsi trwyddedig
  • cerbydau achub neu ddamweiniau (sy’n cael eu defnyddio i gludo gyrrwr a theithwyr cerbyd sydd wedi bod mewn damwain neu wedi torri)
  • cerbydau trafnidiaeth tywys, fel trenau un gledren, system fagnetig a bysiau tywys.

Yn ogystal â’r seilwaith a’r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaeth trafnidiaeth, fel gorsafoedd, arosfannau, meysydd awyr ac amserlenni, mae’r gyfraith yn effeithio ar bawb sy’n gysylltiedig â’r broses o roi gwasanaethau – o’r cyfarwyddwr neu’r rheolwr ar y brig i’r gweithiwr cyflogedig iau, boed yn llawn neu’n rhan-amser, parhaol neu dros dro.  Does dim gwahaniaeth a yw’r gwasanaethau dan sylw’n cael eu darparu gan weithredwr unigol, cwmni, neu sefydliad arall, neu a yw’r sawl sy’n darparu gwasanaethau yn hunangyflogedig neu’n weithiwr cyflogedig, gwirfoddolwr, contractwr neu asiant.

Yn ôl y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae’n rhaid i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus gymryd camau rhesymol i gynnig cymhorthion neu wasanaethau i sicrhau bode u gwasanaethau ar gael i bobl ag anableddau, boed yn ymwneud â symudedd, clyw neu’r golwg.

On this page

 

Enghreifftiau o wahaniaethu

Mae’r problemau’n cynnwys amserlenni wedi’u cyflwyno’n wael, dulliau archebu gorgymhleth, ac ystafelloedd aros mewn meysydd awyr, terfynfeydd llongau, a gorsafoedd bysiau, coetsys a threnau heb gyfleusterau neu gymorth priodol i bobl anabl.  Mae cwmnïau trafnidiaeth yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol yn ôl y gyfraith i gael gwared ar broblemau fel hyn. Trwy gyflwyno newidiadau i gael gwared ar achosion o wahaniaethu yn erbyn pobl anabl, mae’n debygol y bydd pobl nad ydynt yn anabl hefyd yn elwa.

Gall cwmnïau trafnidiaeth dorri’r gyfraith droseddol hefyd os yw cynllun y bysiau neu’r tacsis yn ei gwneud hi’n anodd i bobl â phroblemau symudedd, gan gynnwys rhai mewn cadeiriau olwyn, fynd i mewn ac allan o’r cerbyd - mae rheoliadau yn cwmpasu’r meysydd hyn.  Mae’r rheolau hyn yn amddiffyn pobl y tu hwnt i’r hyn y mae deddfwriaeth gwahaniaethu yn ei wneud.

Mae’r adran ganlynol yn cynnwys sawl enghraifft lle gallai pobl ddwyn achos cyfreithiol posibl oherwydd iddynt gael eu trin yn llai ffafriol na rhywun arall.

Enghraifft: Gwasanaeth ar delerau llai ffafriol

Mae menyw ddall a byddar wedi archebu minicab.  Ar ôl i’r minicab gyrraedd, mae’r gyrrwr yn gofyn i’r teithiwr dalu ymlaen llaw, er na fyddai’n disgwyl i deithwyr eraill wneud hyn.  Mae’r gyrrwr yn credu, heb reswm da, ei bod hi’n llai tebygol o dalu oherwydd ei hanabledd.  Mae hyn yn debygol o fod yn anghyfreithlon.

Enghraifft: Mynediad gwael mewn gorsaf 

Mae Mrs Yun, sy’n defnyddio cadair olwyn, eisiau mynd ar blatfform i ddal y trên i Lundain o’i gorsaf leol.  Ond mae’n rhaid croesi pont â grisiau o boptu iddi er mwyn mynd o’r swyddfa docynnau i’r platfform. Oherwydd hyn, mae Mrs Yun yn gorfod mynd ar hyd ffordd gyhoeddus, heb bafin, am 400 metr i gyrraedd mynedfa’r platfform i Lundain. Mae hyn yn cymryd 20 munud iddi. Mae gan Mrs Yun achos da tros ddadlau ei bod hi’n afresymol o anodd iddi gyrraedd y platfform i Lundain. Mae’n ddyletswydd ar y darparwr gwasanaethau i wneud addasiadau rhesymol. Er enghraifft, trefnu gwasanaeth tacsi am ddim i gludo pobl â phroblemau symudedd o un rhan o’r orsaf i’r llall.

Enghraifft: Staff difrïol

Mae merch ag anableddau dysgu yn teithio ar y trên.  Fel mae’n digwydd, hi yw’r unig un sydd yn y cerbyd trwy gydol y daith.  Wrth i rywun ddod heibio i archwilio tocynnau’r teithwyr, mae’r ferch yn gofyn am gadarnhad ei bod hi ar y trên cywir.  Mae’n cymryd sbel iddi ofyn y cwestiwn oherwydd ei hanabledd. Mae’r archwiliwr tocynnau yn dechrau ymddwyn yn ddigywilydd a sarhaus tuag ati oherwydd yr holl oedi, ac felly’n rhoi gwasanaeth salach nag arfer iddi.  Nid yw’r ffaith nad oes teithwyr eraill yn y cerbyd yn golygu na chafodd y deithwraig anabl ei thrin yn llai ffafriol na theithwyr eraill.  Ni fyddai teithwyr eraill wedi’u trin yn y fath fodd.


Back to top^  

Oes raid i ddarparwr trafnidiaeth wybod bod rhywun yn anabl?

Efallai bod darparwr trafnidiaeth wedi trin unigolyn anabl yn llai ffafriol am resymau sy’n ymwneud â’i anabledd, hyd yn oed os nad oedd y darparwr yn gwybod ei fod yn anabl.  Y prawf sydd wedi’i fabwysiadu’n gyffredinol gan y llysoedd yw ai dyma’r rheswm y cafodd yr unigolyn anabl ei drin yn llai ffafriol yn y lle cyntaf.


Back to top^  

Gwneud addasiadau rhesymol i wasanaethau trafnidiaeth

Os yw darparwyr trafnidiaeth i’w gweld yn trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd eu hanabledd, yna mae’r gyfraith yn mynnu eu bod yn cyflwyno ‘addasiadau rhesymol’ i’w gwasanaethau, cerbydau neu seilwaith er mwyn unioni’r broblem. Dylai darparwyr trafnidiaeth ddisgwyl y bydd pobl â phroblemau hygyrchedd, fel pobl anabl, yn defnyddio eu cerbydau. Dylent ystyried pa addasiadau fydd eu hangen o bosibl, a rhoi’r trefniadau angenrheidiol ar waith heb aros i rywun ofyn amdanynt. Mwy o wybodaeth am y ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol.

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn gofyn i ddarparwyr trafnidiaeth gymryd camau rhesymol i:

  • newid polisi, arferion neu weithdrefn sy’n ei gwneud hi’n amhosibl neu’n anodd iawn i unigolyn anabl fynd i mewn i gerbyd neu ddod ohono, neu ddefnyddio unrhyw un o wasanaethau’r cerbyd (fel y cerbyd bwffe),
  • rhoi cymorth neu wybodaeth ychwanegol i unigolyn anabl fel y gall fynd i mewn i gerbyd, teithio arno a dod ohono neu ddefnyddio unrhyw un o wasanaethau’r cerbyd.

Felly, efallai bod rhywun wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn eich erbyn os ydych chi’n ei chael hi’n amhosibl neu’n afresymol o anodd defnyddio’r gwasanaeth am nad yw’r darparwr wedi cymryd camau rhesymol i newid arfer, polisi neu weithdrefn.

Enghraifft: Methu â newid arferion

Yn ôl polisi cwmni trenau, dim ond teithwyr sydd wedi prynu’r tocynnau priodol sy’n cael eistedd yn yr adran dosbarth cyntaf. Ar un gwasanaeth penodol fodd bynnag, mae’r toiled hygyrch yn yr adran arall wedi torri, sy’n golygu mai dim ond y toiled hygyrch yr adran dosbarth cyntaf sydd ar gael i deithwyr sy’n defnyddio cadair olwyn. Nid yw teithiwr sydd mewn cadair olwyn yn gallu mynd o un rhan o’r trên i’r llall i ddefnyddio’r toiled. Os nad yw’r cwmni trên yn barod i ildio’r polisi a gadael i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn eistedd yn yr adran dosbarth cyntaf er mwyn defnyddio’r toiled hygyrch, yna bydd y polisi yn ei gwneud hi’n afresymol o anodd i’r teithiwr anabl ddefnyddio’r trên. Mae hyn yn debygol o fod yn anghyfreithlon.

Enghraifft arall fyddai cwmni trafnidiaeth sy’n methu â chymryd camau rhesymol i gynnig gwybodaeth ar ffurf tâp sain neu grynoddisg, neu ddarparu cyfieithydd iaith arwyddion.

Enghraifft: Newid arferion er mwyn rhoi mynediad i bobl anabl

Fel rhan o gyhoeddiad cyffredinol i gwsmeriaid ar ei wasanaethau trên, mae cwmni trenau’n nodi y gall unrhyw un sy’n methu â chyrraedd y cerbyd bwffe am resymau anabledd, gael gwasanaeth wrth y sedd a gofyn i staff y trên am gymorth. Mae’r gwasanaeth troli yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau cerbyd bwffe yn hygyrch i bobl anabl.


Back to top^  

Beth yw ystyr rhesymol?

Nid oes rhaid i ddarparwr trafnidiaeth gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid natur ei wasanaeth, gweithredoedd, masnach, proffesiwn neu fusnes yn sylweddol, neu lle gall unrhyw newid beryglu iechyd neu ddiogelwch rhywun.

Enghraifft: Pan fo iechyd a diogelwch yn dod yn gyntaf

Nid yw rhywun sy’n defnyddio cadair olwyn drydan yn gallu troi’r gadair mewn tacsi er mwyn bod yn ddiogel yn ei sedd a wynebu tu blaen neu du ôl y tacsi. Felly, mae eisiau teithio trwy wynebu i’r ochr. Ond mae’r gyrrwr tacsi yn gwrthod ei gludo, gan nad yw hyn yn ffordd ddiogel o deithio.

Mae’r gyrrwr tacsi yn gwrthod oherwydd ei fod yn poeni am ddiogelwch yr unigolyn anabl. Dan yr amgylchiadau, mae gan y gyrrwr tacsi bryderon rhesymol ac felly mae’n debygol o allu cyfiawnhau ei benderfyniad.

Enghraifft: Addasiad afresymol

Yn dilyn strôc, mae Mr Dhaliwal yn ei chael yn anodd cerdded yn bell neu gerdded i fyny’r grisiau. Mae Mr Dhaliwal yn ymwelydd rheolaidd â’i gaffi lleol, sydd wedi’i addasu o dŷ teras. Mae’r caffi ar ddau lawr. Does dim lifft i’r llawr uchaf, ond mae seddi ar y ddau lawr a thoiled hygyrch ar y llawr isaf. Mae Mr Dhaliwal wedi gofyn i berchennog y caffi osod lifft fel addasiad rhesymol.

Mae perchennog y caffi yn ymchwilio i’r mater. Hwn yw ei unig fusnes. Mae’n cael amcanbris o £30,000 gan ddau adeiladwr i osod lifft a fyddai’n golygu 20% yn llai o leoedd i seddi ar y ddau lawr.

Nid yw’r addasiad hwn yn debygol o fod yn rhesymol ar gyfer y perchennog caffi. Mae perchennog y caffi yn egluro’r rhesymau i Mr Dhaliwal, ac mae hefyd yn sicrhau bod cwsmeriaid anabl yn cael y flaenoriaeth o ran sedd a bwrdd ar y llawr isaf.

Enghraifft: Addasiad rhesymol

Mae gan y bensiynwraig, Mrs Ward, nam ar ei golwg. Mae’n ymweld â’i hamgueddfa leol. Mae ystafelloedd yr arddangosfeydd (y waliau, drysau a’r nenfydau) wedi’u paentio’n hollol wyn, sy’n peri dryswch ac yn ei gwneud hi’n anodd i Mrs Ward ddod o hyd i’r mynedfeydd a’r allanfeydd i’r ystafelloedd eraill. Mae’n defnyddio blwch awgrymiadau’r amgueddfa i ofyn iddynt baentio’r drysau mewn lliw cyferbyniol. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r amgueddfa.

Mae’r amgueddfa yn gweithredu ar y mater ar unwaith. Maen nhw’n gofyn am farn Mrs Ward a Sefydliad Brenhinol y Deillion, fel bo’r cynllun lliw cyferbyniol yn sicrhau’r mynediad gorau posibl.


Back to top^  

Gwasanaethau llogi ac achub

Efallai y bydd disgwyl i gwmnïau llogi cerbydau a gwasanaethau achub wneud newidiadau i’r nodweddion ffisegol sy’n rhwystro pobl anabl rhag defnyddio eu cerbydau.

Cerbydau i’w llogi                                                                                                  

Bydd rhaid i gwmnïau sy’n darparu cerbydau i’w llogi gymryd camau rhesymol i ddileu, gwella neu osgoi nodwedd ffisegol sy’n atal unigolyn anabl rhag defnyddio cerbyd, neu feddwl am ffordd wahanol a rhesymol o gynnig eu gwasanaeth. Er hynny, does dim gorfodaeth i newid seddi sefydlog.

Addasiad rhesymol i gerbydau i’w llogi

Mae gyrrwr anabl am logi car. Mae angen iddo gael car wedi’i osod â rheolyddion llaw. Mae’r cwmni llogi yn newid y rheolyddion brêc a’r sbardun yn un o’r ceir trwy osod set o reolyddion llaw y gallai’r gyrrwr eu defnyddio. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’w gymryd gan y cwmni llogi cerbydau.

Cerbydau achub

Bydd angen i gwmnïau cerbydau achub gymryd camau rhesymol i oresgyn nodweddion ffisegol sy’n rhwystr i bobl anabl, trwy ddarparu gwasanaeth mewn ffordd arall, resymol.

Enghraifft: Addasiadau rhesymol i gerbyd achub

Mae cwmni yn anfon cerbyd achub i helpu modurwr anabl y mae ei gar wedi torri ar y ffordd adref. Ar ôl cyrraedd, mae gyrrwr y cerbyd achub yn gweld nad oes modd trwsio’r car ar unwaith, a bod angen llusgo’r car i’r garej.

Mae telerau contract gwasanaeth achub y modurwr yn golygu y bydd yn cael ei gludo i’w gyrchfan pe bai’r car yn torri a dim modd ei drwsio yn y fan a’r lle. Fel arfer, bydd y cwmni achub yn gwneud hyn trwy fynd a’r modurwr yn y cerbyd achub. Er hynny, mae grisiau’n arwain i’r cerbyd achub – ac nid yw’r modurwr yn gallu dringo’r grisiau oherwydd ei broblemau symudedd.

Felly, mae’r cwmni achub yn trefnu bod cerbyd hygyrch, fel tacsi addas er enghraifft, yn cludo’r modurwr i’w gartref heb dâl ychwanegol. Mae hyn yn enghraifft o ddarparu gwasanaeth mewn ffordd wahanol, sy’n debygol o fod yn gam rhesymol i’r cwmni achub ei gymryd. 


Back to top^