Mae’r rhan hon yn trafod eich hawliau chi wrth ddefnyddio pob math o wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys siopau, canolfannau adloniant fel bwytai a sinemâu, gwestai, banciau a gwasanaethau ariannol, clybiau chwaraeon, addoldai a mannau cyhoeddus.
Ni all busnesau a sefydliadau wahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail anabledd, hil, rhyw, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol wrth roi gwasanaethau i bobl. Mae hyn lawn mor berthnasol wrth roi gwasanaethau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, a ph’un a oes angen talu am y gwasanaeth ai peidio. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb yn berthnasol i glybiau aelodau preifat. Ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth sy’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail oed ym maes nwyddau a gwasanaethau.
Cewch fwy o wybodaeth am eich hawl i gael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu anghyfreithlon gan rai sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd, yn ogystal ag enghreifftiau o driniaeth annheg neu wahaniaethu posibl. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y meysydd canlynol hefyd:
Ewch i’r adrannau canlynol am fwy o wybodaeth:
Mwy o wybodaeth am eich hawliau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau yn y system cyfiawnder troseddol.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau cludiant.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau ym myd gwaith a chyflogau
Mwy o wybodaeth am eich hawliau tai ac eiddo.
Mae’r adran hon wedi’i rhannu’n saith rhan:
Siopau a gwasanaethau
Canolfannau adloniant
Gwasanaethau ffon ac ar-lein
Gwasanaethau ariannol ac yswiriant
Clybiau a chymdeithasau
Darparwyr gwasanaethau cyhoeddus
Pryd mae’n gyfreithlon i wahaniaethau