Rhaid i ddarparwyr geisio gofalu eu bod nhw’n darparu eu holl wasanaethau ar yr un telerau, i’r un safon, a’u bod ar gael yr un mor hwylus i bawb – boed ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Er enghraifft, os ydych chi’n gwsmer â nam ar y clyw, dylai darparwyr gwasanaethau sydd ond yn cynnig gwasanaethau ffôn ystyried cynnig cyfleusterau ffôn testun, neu gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng arall – fel gwerthu tocynnau ar y we a thros y ffôn.
Wrth gynnig gwasanaethau ar-lein, rhaid i ddarparwyr geisio gofalu bod pawb yn gallu defnyddio’u gwefannau. Er nad oes diffiniad unigol o hygyrchedd, mae canllawiau Consortiwm y We Fyd-eang wedi’u cydnabod a’u mabwysiadu’n helaeth, yn cynnwys gan lywodraeth y DU.
Ewch i wefan Consortiwm y We Fyd-eang i weld canllawiau’r diffiniad o hygyrchedd.
Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol darparwyr gwasanaethau.
Enghraifft
Mae rheolwr swyddfa archebu tocynnau mewn gorsaf trên stêm yn penderfynu cyfathrebu gyda theithwyr â nam ar y clyw/nam ar y lleferydd trwy gyfrwng nodiadau ysgrifenedig. Mae hyn yn debygol o gael ei ystyried yn gam rhesymol. Ond efallai na fydd hyn yn gam rhesymol i weithiwr swyddfa docynnau mewn gorsaf reilffordd prif lein, oherwydd y bydd disgwyl i’r orsaf honno osod system dolen sain a ffôn testun.