Gwasanaethau ariannol ac yswiriant 

 

Ym mhob achos, bron, ni chaiff unigolion neu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ariannol eich trin yn llai ffafriol na neb arall ar sail eich rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, neu unrhyw anabledd sydd gennych. Mae’n anghyfreithlon iddynt, neu rywun sy’n gweithio iddynt, wrthod rhoi gwasanaeth i chi, rhoi gwasanaeth salach, neu gynnig gwasanaeth ar delerau gwahanol i bobl eraill. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ariannol wneud addasiadau rhesymol hefyd er mwyn i gwsmeriaid ag anableddau allu defnyddio eu gwasanaethau.

Mae gwasanaethau ariannol yn cynnwys:

  • banciau
  • sefydliadau sy’n cynnig grantiau, benthyciadau, credyd a chyllid
  • sefydliadau sy’n cynnig yswiriant.

Dan rhai amgylchiadau, gall cwmnïau yswiriant wrthod rhoi yswiriant i chi  ar sail eich rhyw neu anabledd, neu gyfeiriadedd rhywiol, neu roi yswiriant ar delerau gwahanol: er enghraifft, trwy godi premiwm uwch neu lefel yswiriant is. Mwy o wybodaeth am yswiriant a gwahaniaethu ar sail rhyw.

Efallai y bydd menywod sy’n hawlio arian o bolisi yswiriant iechyd am resymau’n ymwneud â beichiogrwydd, yn gweld nad ydynt wedi’u hyswirio. Bydd hyn yn dibynnu ar union eiriad y polisi a natur y salwch. Ar y cyfan, nid yw yn anghyfreithlon trin menyw yn anghyfartal ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. Ond gan fod hyn ond yn effeithio ar fenywod, gall fod yn enghraifft o wahaniaethu mewn rhai achosion. Mae’n anghyfreithlon trin dynion a menywod yn wahanol wrth drefnu credyd a phensiynau gwaith.

Enghraifft

Mae rhywun sydd wedi cael diagnosis o iselder manig yn gwneud cais am yswiriant car, ond yn clywed y bydd yn gorfod talu dwywaith y premiwm arferol. Mae’r yswiriwr yn dibynnu ar ystadegau ynglŷn â’r peryglon sy’n wynebu gyrrwr mewn stad feddyliol manig. Mae hyn yn cyfiawnhau codi premiwm ychwanegol.

Enghraifft

Mae cwmni arbennig ond yn cynnig benthyciadau i bobl sy’n gweithio’n llawn amser. Ond gan fod ystadegau’n dangos bod menywod yn fwy tebygol na dynion o weithio’n rhan-amser, gall hyn olygu gwahaniaethu anuniongyrchol.