Pryd mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon?
O dan rai amgylchiadau, gall trin rhywun yn fwy neu’n ffafriol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol fod yn gyfreithlon, ond eithriadau prin yw’r rhain.
On this page
Gofynion galwedigaethol dilys
Mewn sefyllfaoedd cyfyngedig, gall fod yn gyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu os oes yna ofyniad galwedigaethol dilys i ddeiliad y swydd fod o gyfeiriadedd rhywiol arbennig.
Enghraifft
Mae elusen sy’n darparu gwasanaethau trais yn y cartref i lesbiaid, menywod deurywiol, dynion hoyw a phobl drawsrywiol yn hysbysebu am weithiwr achos hoyw i ddarparu gwasanaethau i gleientiaid hoyw. Mae’r swydd wedi’i chyfyngu i ymgeiswyr hoyw am fod yr elusen o’r farn bod cyfeiriadedd rhywiol arbennig yn ofyniad galwedigaethol dilys ar gyfer y swydd. Mae’r elusen yn ystyried na fyddai gan ddynion heterorywiol ddealltwriaeth fanwl o brofiadau diwylliannol a thrais yn y cartref dynion hoyw. Mae’r elusen yn cyfyngu swyddi eraill i fenywod lesbiaidd a deurywiol a phobl drawsrywiol am yr un rhesymau. Nid yw swyddi eraill yn gofyn am y math hwn o ddealltwriaeth fanwl, megis swyddi gweinyddol, ac mae’r rheiny’n agored i bobl o bob rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Gallai’r math hwn o wahaniaethu fod yn gyfreithlon.
Enghraifft
Rhwystrodd esgob Eglwys Loegr i fenyw gael ei phenodi i swydd gweithiwr ieuenctid wedi’i hariannu gan yr eglwys am ei bod yn lesbiad. Roedd y swydd yn cynnwys gweithio gyda merched yn eu harddegau. Roedd yr esgob o’r farn nad oedd hi’n briodol i gael lesbiad yn gweithio gyda merched yn eu harddegau. Roedd y panel recriwtio eisoes wedi penderfynu mai’r fenyw oedd yr ymgeisydd mwyaf addas am y swydd, a oedd wedi’i chyfyngu i fenywod. Roedd ei thystlythyrau yn rhagorol hefyd. Roedd y swydd wedi’i chyfyngu i fenywod fel gofyniad galwedigaethol dilys. Roedd y penderfyniad i beidio â chynnig y swydd i lesbiad yn wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Back to top^
Nwyddau a gwasanaethau masnachol
Mae’n anghyfreithlon i droi cwsmeriaid i ffwrdd oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae hefyd yn anghyfreithlon hysbysebu mewn ffordd sy’n awgrymu nad oes croeso i gwsmeriaid o gyfeiriadedd rhywiol arbennig wneud cais.
Fodd bynnag, nid yw’n anghyfreithlon darparu nwyddau a gwasanaethau masnachol sy’n debygol o fod o fwy o ddiddordeb i bobl o gyfeiriadedd rhywiol arbennig nag i eraill o gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.
Enghraifft
Mae cwmni teithio sy’n trefnu gwyliau yn gallu targedu ei wasanaethau at lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol. Mae hyn yn wahaniaethu cyfreithlon.
Enghraifft
Nid yw clwb nos yn cyfyngu tocynnau i gael eu gwerthu i gwsmeriaid o unrhyw gyfeiriadedd rhywiol arbennig. Mae’r dyn sydd wrth y drws yn penderfynu nad oedd croeso i fenyw heterorywiol (straight yn Saesneg) am fod y noson yn ‘noson i hoywon’. Mae hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Back to top^
Sefydliadau sy’n gysylltiedig â chrefydd neu gred
Mae gan rai cyrff neu grwpiau bwrpas crefyddol neu sy’n gysylltiedig â chred. Gall cyrff o’r fath fod ag angen cyfreithlon i gyfyngu aelodaeth neu fynediad i’w gweithgareddau i bobl sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn rhannu eu crefydd neu’u cred.
Mae’r gyfraith yn cydnabod yr angen i osgoi cyfyngiadau di-angen ac na ellir eu cyfiawnhau ar hawl pobl i ymarfer eu cred crefyddol. Felly, mae’n bosibl y gellir cyfiawnhau eithriad i gwmpasu gweithgareddau sefydliadau crefyddol.
Er enghraifft, efallai y gall grŵp crefyddol gyfiawnhau cyfyngu ei aelodaeth i bobl heterorywiol er mwyn cydymffurfio ag athrawiaeth y sefydliad, neu i osgoi gwrthdaro ag argyhoeddiadau crefyddol cadarn nifer sylweddol o ddilynwyr y grefydd.
Mae darpariaethau crefydd neu gred Rhan 2 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn cynnwys eithriadau sy’n gwneud hyn yn bosibl.
Enghraifft
Mae asiantaethau mabwysiadu crefyddol wedi’u heithrio tan Nadolig 2008 o’r gofyniad i beidio â gwahaniaethu yn erbyn cyplau lesbiaidd a hoyw sydd am fabwysiadu plant. Wedi hynny, bydd hi’n anghyfreithlon iddyn nhw wahaniaethu yn erbyn cyplau lesbiaidd neu hoyw sydd yn dod atynt ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu.
Back to top^
Elusennau
Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i elusennau wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, os yw elusen wedi’i sefydlu i ddarparu manteision i bobl o gyfeiriadedd rhywiol arbennig ac mae eu rheolau (a elwir yn offeryn elusennol) yn datgan hyn yn glir, gallant yn gyfreithiol gyfyngu eu gwasanaethau yn y modd hwn.
Enghraifft
Mae elusen yn cael ei sefydlu i hyrwyddo hawliau cyfartal i lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol. Mae’n gyfreithlon i gyfyngu gweithgareddau’r elusen yn y modd hwn.
Enghraifft
Mae elusen yn cael ei sefydlu i gefnogi lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol sy’n dioddef troseddau casineb. Mae’n gyfreithlon i gyfyngu gweithgareddau’r elusen yn y modd hwn.
Back to top^