Pryd a ble allai gwahaniaethu ddigwydd? 

 

Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn digwydd mewn sawl sefyllfa ac fel arfer mae’n anghyfreithlon.

I gael diffiniadau o wahanol fathau o wahaniaethu, megis gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, ac aflonyddu ac erledigaeth, yn ogystal â throseddau casineb, ewch i ‘Geirfa gyfreithiol.

Mae rheoliadau mewn grym sy’n gwahardd gwahaniaethu yn y gweithle, gan gynnwys aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Mae ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) wedi cyhoeddi arweiniad i gyflogwyr a gweithwyr cyflogedig ar gyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle, sy’n egluro Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003.

Mae rheoliadau mewn grym hefyd sy’n gwahardd gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, addysg, defnyddio a chael gwared ar adeiladau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus.

Mae’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi cynhyrchu arweiniad i’r rheoliadau hyn.

On this page

 

Gweithio ac ennill arian

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gadarnhaol i drin pobl yn gyfartal o safbwynt recriwtio, hyfforddi, dyrchafu a diswyddo.

Enghraifft

Tra roedd yn cael cyfweliad am ddyrchafiad, mae ymgeisydd yn dweud bod ganddi bartner benywaidd. Er bod ganddi’r holl sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y swydd mae’r sefydliad yn penderfynu peidio â chynnig dyrchafiad iddi am ei bod yn lesbiad. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.

Enghraifft

Roedd James wedi ymgeisio am sawl cwrs hyfforddi a gynigiwyd gan ei gwmni. Roedd yr holl gyrsiau’n berthnasol i’w swydd ac yn hanfodol er mwyn cael cyfle am ddyrchafiad. Roedd ei reolwr yn gwrthod bob tro, gan ddweud na allai fforddio’r amser i ffwrdd o’i waith arferol. Fodd bynnag, roedd yr un rheolwr yn gadael i gydweithwyr eraill fynd ar gyrsiau hyfforddi’n rheolaidd. O ganlyniad cafodd sawl un ddyrchafiad. Digwyddodd James glywed ei reolwr yn dweud na ddylai pobl hoyw weithio i’r cwmni ac na fyddai byth yn anfon James ar gwrs hyfforddi. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.

Enghraifft

Mae Maria yn lesbiad a benderfynodd beidio â datgelu ei rhywioldeb wrth gydweithwyr am ei bod yn aml yn eu clywed yn dweud jôcs sy’n gwneud hwyl am ben pobl eraill, gan gynnwys lesbiaid a dynion hoyw. Dywedodd un o gydweithiwr Maria wrth bobl eraill yn y gwaith ei bod hi’n lesbiaidd am ei fod wedi’i gweld yn dal dwylo gyda menyw arall. Cafodd ei galw i swyddfa’i rheolwr, a ddywedodd wrthi ei bod yn cael ei symud i adran arall am na allai yntau weithio gyda rhywun lesbiaidd.

Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon gan ei rheolwr. Mae hefyd yn achos o aflonyddu gan gydweithwyr, am fod ei chydweithiwr wedi datgelu ei bod yn lesbiaidd ac oherwydd y jôcs gwahaniaethol y bu’n rhaid iddi wrando arnyn nhw.

Os ydych chi’n gweithio mewn amgylchedd lle mae pobl yn dweud jôcs am gyfeiriadedd rhywiol rydych chi’n ystyried eu bod yn dramgwyddus, neu lle mae pobl yn pigo ar rywun oherwydd cyfeiriadedd rhywiol canfyddedig, gallai hyn fod yn achos o aflonyddu.

Os ydych chi wedi gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol a’ch bod wedi cael eich trin yn wael am eich bod wedi cwyno, mae hyn yn erledigaeth anghyfreithlon.


Back to top^  

Addysg a hyfforddiant

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol wrth ddarparu addysg neu hyfforddiant. Mae’r cyfle i ddysgu a chael hyfforddiant yn agored i bawb, ac mae’n ofynnol i ddarparwyr addysgol drin pawb yn gyfartal wrth gynnig hyn. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, bod yn rhaid cymryd bwlio homoffobig mewn ysgolion a cholegau o ddifrif ac ymdrin ag achosion mewn modd sydd yr un mor gadarn â bwlio ar unrhyw sail arall.

Enghraifft

Roedd John yn cael ei fwlio yn yr ysgol gan ddisgyblion eraill a oedd yn credu ei fod yn hoyw. Cwynodd wrth ei athro ond ni wnaeth yr athro unrhyw beth i fynd i’r afael â’r bwlis. Pan gafodd ei guro gan y bwlis roedd cymaint o ofn ar John fel y gwrthododd ddychwelyd i’r ysgol.  Gallai hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol.

Enghraifft

Roedd merch i gwpwl hoyw yn cael ei bwlio yn yr ysgol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol ei rhieni. Cwynodd y rheini wrth yr athro a ddywedodd mai dim ond ‘tynnu coes’ oedd hyn ond y byddai’n gofyn i’r plant roi’r gorau i’r bwlio. Aeth y bwlio ymlaen, er bod bwlio am resymau eraill yn cael ei ystyried o ddifrif a’r ysgol yn ymdrin ag ef yn llym.  Gallai hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol yn gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol ei rhieni.


Back to top^  

Siopau, gwasanaethau, clybiau a chymdeithasau

Mae gan bawb yr un hawl i gael defnyddio siopau a gwasanaethau, ac i gael eu trin yn deg a chyda pharch, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol.

Enghraifft

Gwrthodir ystafell gyda gwely dwbl mewn gwesty, er bod un ar gael, i ddau ddyn am fod y gwesty’n dweud bod hynny’n groes i’w polisi i ganiatáu i ddau oedolyn o’r un rhyw rannu gwely. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.

Enghraifft

Os byddai cwmni benthyca yn gwrthod rhoi benthyciad i gwsmeriaid sydd wedi cael prawf HIV, gallai hyn fod yn wahaniaethu anuniongyrchol yn erbyn dynion hoyw, a all fod yn fwy tebygol nag eraill o fod wedi cael prawf o’r fath.


Back to top^  

Gofal a gofal iechyd

Mae gan ddarparwyr gofal iechyd a chymdeithasol gyfrifoldeb i beidio â gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un, gan gynnwys lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol.

Enghraifft

Gwrthodir triniaeth ffrwythlondeb i gwpl am eu bod yn lesbiaid. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.

Enghraifft

Mae meddyg yn dileu claf oddi ar ei restr am ei fod wedi cydnabod ei fod yn hoyw. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.


Back to top^  

Tai ac eiddo

Beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol, mae gennych chi’r hawl i gael eich trin yn gyfartal gan gynghorau lleol a darparwyr tai. Mae eich hawliau i fod yn berchen a mwynhau eich eiddo hefyd wedi’u hamlinellu yn Neddf Hawliau Dynol 1998.

Enghraifft

Mae Simon yn ddyn deurywiol sy’n byw mewn tŷ awdurdod lleol. Mae mewn perthynas rywiol gyda dyn arall, nad yw’n cyd-fyw ag ef. Mae ei gymdogion yn aflonyddu ar Simon oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol. Mae wedi dioddef cam-drin geiriol ac mae ei ffenestri wedi’u torri. Mae wedi dweud wrth ei swyddog tai am y cam-drin ac wedi gofyn am gael ei roi mewn tŷ arall, ond mae’r cyngor yn gwrthod derbyn hyn fel rheswm dilys. Mae’r swyddog tai yn dweud wrth Simon am hysbysu’r heddlu am unrhyw ddigwyddiadau ac nid yw’n cymryd unrhyw gamau pellach. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.


Back to top^  

Cyfiawnhau a’r system gyfreithiol

Mae gan bawb yr hawl i wrandawiad teg a thriniaeth gyfartal o dan y gyfraith.

Enghraifft

Mae lesbiad yn dweud wrth yr heddlu ei bod wedi dioddef trais yn y cartref gan rywun o’r un rhyw ond nid yw ei chwyn yn cael ei gymryd o ddifrif. Dydyn nhw ddim o’r farn y gall menyw ddioddef trais yn y cartref gan fenyw arall. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.


Back to top^  

Gwasanaethau cyhoeddus

Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ddarparu gwasanaethau i bob cymuned ac unigolion heb wahaniaethu. Gallai unrhyw sefydliad neu unigolyn sy’n gwneud gwaith o natur gyhoeddus gael ei ystyried yn awdurdod cyhoeddus, felly mae sefydliadau preifat a di-elw sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus weithiau yn awdurdodau cyhoeddus. Mae manylion pellach am lawer o wasanaethau cyhoeddus yn yr adran ‘Hawliau mewn gwahanol sefyllfaoedd’ .

Enghraifft

Mae gan grŵp crefyddol gontract gydag awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth pryd ar glud. Mae aelod o’r grŵp, sy’n wirfoddolwr, yn gwrthod darparu prydau bwyd i ddyn hoyw oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol. Mae cyfarwyddwr y grŵp yn dweud wrth y gwirfoddolwr bod yn rhaid iddo ddarparu prydau bwyd i bawb sydd eu hangen, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae’r gwirfoddolwr yn gwrthod am fod hyn yn groes i’w argyhoeddiad crefyddol cadarn nad yw perthynas gan rai o’r un rhyw yn iawn. Mae’r cyfarwyddwr yn dweud wrth y gwirfoddolwr na all barhau i fod yn rhan o’r gwasanaeth pryd ar glud.

Am fwy o wybodaeth am gydraddoldeb a’ch hawliau ym mhob un o’r meysydd hyn - a beth i wneud os ydych chi wedi’ch trin yn annheg - ewch i’r dudalen Hawliau mewn gwahanol sefyllfaoeddd.


Back to top^