Mae eich cyfeiriadedd rhywiol yn golygu’r atyniad cyffredinol a deimlwch tuag at bobl o un rhyw neu’r llall (neu’r ddau). Mae’r rhan fwyaf o bobl fel arfer wedi’u denu at:
Gelwir pobl sy’n cael eu denu at yr un rhyw yn bobl gyfunrywiol. Ar y wefan hon, rydyn ni’n galw dynion a menywod cyfunrywiol naill ai yn ‘hoyw’ (dynion) neu’n ‘lesbiaidd’ (menywod).
Gelwir pobl sy’n cael eu denu ar y rhyw arall yn bobl heterorywiol. Ar y wefan hon, rydyn ni’n disgrifio’r bobl hynny yn bobl heterorywiol.
Gelwir pobl sy’n cael eu denu at y ddau ryw yn bobl ddeurywiol. Ar y wefan hon, rydyn ni’n defnyddio’r gair ‘deurywiol’ i ddisgrifio pobl sy’n cael eu denu at y ddau ryw.