Mae amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn berthnasol i bawb, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol.
Mae gwahaniaethau ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd:
-
eich bod chi’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu heterorywiol
-
bod pobl o’r farn eich bod chi’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu heterorywiol, neu
-
eich bod chi’n cymdeithasu â rhywun sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu heterorywiol, er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr.
Mae’r gyfraith yn berthnasol i wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ogystal ag aflonyddu ac erledigaeth. Mae’r gyfraith yn berthnasol i’r sectorau preifat, cyhoeddus a di-elw.