Ystyr darparwr gwasanaeth yw unrhyw sefydliad sy'n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i'r cyhoedd, boed am dâl neu am ddim, waeth pa mor fawr neu fach yw'r sefydliad.
Mae'r diffiniad o 'ddarparwr gwasanaeth' yn eithaf eang: mae'n cynnwys y rhan fwyaf o sefydliadau sy'n ymdrin yn uniongyrchol ag aelodau o'r cyhoedd. Ceir rhestr o enghreifftiau isod.
Er enghraifft, ni châi gweithgynhyrchwr sy'n gwerthu nwyddau drwy fanwerthwyr yn unig ei ystyried yn ddarparwr gwasanaeth, ond câi'r manwerthwyr eu hystyried felly.
Yn yr un modd, ni fyddai'r diffiniad yn berthnasol i fanc buddsoddi sy'n ymdrin â chwmnïau eraill yn unig ac nid â'r cyhoedd; ond, byddai'n berthnasol i fanc stryd fawr.
Mae gwasanaethau'n cynnwys amwynderau cyhoeddus hefyd megis parciau, adeiladau cyhoeddus, cyfleusterau hamdden a gorsafoedd rheilffyrdd, lle cânt eu rhedeg gan y Llywodraeth neu gan gwmnïau preifat. Fodd bynnag, mae gan awdurdodau cyhoeddus a'r sawl sy'n gweithredu ar eu rhan gyfrifoldebau ychwanegol. Gweler yr adran ar Awdurdodau cyhoeddus.
Yn gyffredinol, nid yw deddfwriaeth cydraddoldeb yn cwmpasu clybiau aelodau preifat sydd â gweithdrefn ddethol lem ar gyfer eu haelodaeth, na chlybiau sy'n darparu gwasanaethau i'w haelodau yn unig. Fodd bynnag, ni ddylid gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn aelodau a chyflogeion clybiau. Mae gan bobl anabl sy'n aelodau o glwb yr hawl i addasiadau rhesymol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Gweler Clybiau a chymdeithasau preifat.
Mae rhai amgylchiadau lle y gall eich cyfrifoldebau fel darparwr gwasanaeth fod yn wahanol:
- Os ydych yn darparu nwyddau neu wasanaethau ar ran cleient yn y sector cyhoeddus, efallai fod yn rhaid i chi gydymffurfio â'i gyfrifoldebau cyfreithiol ychwanegol o dan y dyletswyddau sector cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb.
- O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud 'addasiadau rhesymol' lle bod eu hangen i sicrhau na chaiff pobl anabl eu rhoi dan anfantais wrth eu defnyddio.
- Os oes rheswm dilys dros ddarparu gwasanaeth i grwpiau penodol o bobl yn unig, efallai y bydd modd i chi wneud hynny. Dysgwch fwy am ba bryd y mae gwahaniaethu'n gyfreithlon.
- Os byddai gwneud addasiadau rhesymol i bobl anabl yn arwain at achos o dorri rhwymedigaeth gyfreithiol wahanol, efallai na fydd yn ofynnol i chi eu gwneud. Gweler Gwneud addasiadau rhesymol am ragor o wybodaeth.