Sut i fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb
Y man cychwyn ar gyfer unrhyw ymdrech i wneud eich gwasanaethau yn fwy hygyrch yw asesu'r hyn rydych eisoes yn ei wneud a chwilio am feysydd lle gallwch wella.
Gallai hyn gynnwys:
- adolygu gofynion y ddeddfwriaeth a sicrhau eich bod yn deall y goblygiadau i'ch sefydliad
- rhagweld unrhyw newidiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud a blaengynllunio
- chwilio am enghreifftiau o arfer da o ddarparwyr gwasanaethau eraill
- ymgynghori â chwsmeriaid presennol ar newidiadau sydd angen eu gwneud, yn eu barn hwy (er y dylech gofio: gall cwsmeriaid presennol ond sôn am eu hanghenion hwy - meddyliwch am anghenion cwsmeriaid na allant ddefnyddio eich gwasanaethau ar hyn o bryd)
- cael cymorth proffesiynol
Mae rhagor o ffynonellau cyngor ar wella hygyrchedd i bobl anabl ar gael yma.
Cofiwch nad rhwystrau ffisegol yn unig yw'r rhwystrau i gael gafael ar eich gwasanaeth - meddyliwch a ydych, yn anfwriadol, yn rhwystro rhai grwpiau rhag defnyddio eich gwasanaethau mewn ffyrdd eraill, megis lle rydych yn hysbysebu eich gwasanaethau neu pwy rydych yn ei gyflogi.
Gweler Gweithredu'r hawliau: gweithio ac ennill am drosolwg llawn o hawliau cyflogeion.
On this page
Polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ddatganiad pwysig o agwedd eich sefydliad at hawliau a chydraddoldeb o ran y gwasanaethau a gynigir gennych. Drwy lunio polisi swyddogol, rydych yn ymrwymo i sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael triniaeth deg a chyfartal.
Mae polisi effeithiol yn:
- esbonio pwy a gwmpesir gan y polisi
- esbonio beth rydych yn ei olygu wrth 'darparu gwasanaethau'
- nodi eich gwerthoedd a sut rydych yn bwriadu eu rhoi ar waith
- dangos i gwsmeriaid eich bod o ddifrif ynglŷn â thegwch y ffordd rydych yn darparu eich gwasanaethau
- helpu pobl i ddeall beth y gallant ei ddisgwyl o'ch sefydliad
- helpu i ennill cwsmeriaid newydd
- ategu eich cynllun gweithredu
- dweud wrth rywun pam a sut y dylent gwyno os na ddilynir y polisi.
Back to top^
Cynllun gweithredu
Mae eich cynllun gweithredu yn ystyried nodau eich polisi cydraddoldeb ac yn nodi:
- beth a gaiff ei wneud i gyflawni'r nodau hyn
- pa uwch swyddog sy'n gyfrifol am bob cam gweithredu
- terfynau amser a thargedau ar gyfer cyflawni'r nodau
- sut yr eir i'r afael ag achosion o dorri'r polisi a sut y cânt eu hunion
- sut y caiff llwyddiant neu fethiant ei fesur
- sut y caiff cynnydd ei adolygu, a pha mor aml.
Mae cynllun gweithredu da yn sicrhau bod nodau eich polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu troi'n heriau a gwelliannau gwirioneddol o ran y ffordd rydych yn darparu gwasanaethau.
Dylech sicrhau bod eich cyflogeion i gyd yn gyfarwydd â'r polisi a'r cynllun gweithredu, a sut y bydd hyn yn effeithio ar eu gwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer:
- uwch aelodau o staff sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun gweithredu
- staff sy'n gweithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cynlluniau neu bolisïau hil, anabledd a rhywedd, a bod â dyletswydd ychwanegol i hyrwyddo cydraddoldeb.
Os ydych yn gontractwr sy'n gweithio i gleient sector cyhoeddus, bydd angen iddo sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r dyletswyddau hyn. Gall polisi a chynllun gweithredu da ar gydraddoldeb fod o gymorth.
Back to top^
Ymdrin yn briodol â chwynion
Mae sicrhau bod cwynion am wahaniaethu yn cael eu trin yn briodol yn ganolog i arfer da ym maes cydraddoldeb.
Mae ymdrin â chwynion yn gyflym ac yn ofalus yn arbed amser ac arian yn yr hirdymor. Mae llawer o gwynion yn cael eu gwrando yn y llys yn y pen draw oherwydd camgymeriadau y gellid bod wedi eu hosgoi yn gynharach yn y broses, megis addasiad difeddwl neu driniaeth anystyriol o'r gŵyn wreiddiol.
Mae ymdrin â chwynion mewn ffordd dda yn gyfle i unrhyw sefydliad ddangos y gall wrando ar gwsmeriaid ac ymateb i'w pryderon, ac y gall gydnabod camgymeriadau ac y bydd yn eu hunioni'n gyflym - y gallant oll helpu i greu teyrngarwch cwsmeriaid a sicrhau adborth cadarnhaol.
Back to top^
Eich gweithdrefn gwyno
Peidiwch ag aros i gŵyn gael ei gwneud cyn datblygu gweithdrefn gwyno. Dylech sicrhau bod eich holl staff yn gyfarwydd â'r weithdrefn - drwy hyfforddiant neu broses sefydlu - a dylai gynnwys manylion y canlynol:
- beth y dylai cwsmer ei wneud os bydd yn teimlo y gwahaniaethwyd yn ei erbyn
- sut yr ymchwilir i'w gŵyn
- faint o amser y disgwylir i'r ymchwiliad ei gymryd
- pwy fydd yn ymchwilio i'r gŵyn ac yn ymateb iddi
- beth y dylent ei wneud os byddant yn parhau yn anfodlon
Dylai eich proses gwyno anelu at fod yn agored ac yn dryloyw, a dylai fod ar gael i'r holl gwsmeriaid.
Os nad yw canlyniad eich gweithdrefn gwyno yn bodloni'r achwynydd, gall fynd ar drywydd y mater drwy'r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, neu lys y siryf yn yr Alban.
Dylech bob amser geisio datrys y gŵyn cyn gynted â phosibl.
I gael rhagor o wybodaeth am egwyddorion dull da o ymdrin â chwynion, a sut y cânt eu cymhwyso at y sector cyhoeddus, ewch i wefan yr ombwdsmon.
Back to top^
Monitro cynnydd ac annog gwelliannau parhaus
Er mwyn sicrhau bod eich cynllun yn llwyddiannus, mae'n allweddol eich bod yn monitro cynnydd ac yn cymryd camau gweithredu os na chaiff targedau eu cyflawni.
Dylech gymryd eich cynllun gweithredu o ddifrif: dylech sicrhau bod uwch aelod o staff yn adolygu cynnydd yn rheolaidd.
Dylech gydnabod a gwobrwyo arfer da ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Dylech amlygu enghreifftiau da neu ddatblygiadau newydd ym maes cyfathrebu mewnol megis cylchlythyrau staff, a datblygu cynllun gwobrwyo priodol ar gyfer y bobl dan sylw.
Back to top^