Pryd a lle y gall achos o wahaniaethu ddigwydd? 

 

On this page

 

Gweithio ac ennill arian

Mae yna ddeddfau yn eich amddiffyn chi rhag achosion o wahaniaethu ar sail crefydd neu gred pan fyddwch chi’n ymgeisio am swydd, tra byddwch chi’n gweithio, ac ar ôl i chi adael y cwmni. Rydych wedi’ch amddiffyn hefyd os nad ydych chi’n dilyn crefydd neu gred.

Enghraifft

Yn ystod cyfweliad, mae menyw Gristnogol yn sôn am yr eglwys y mae’n ei mynychu’n rheolaidd. Er bod ganddi’r sgiliau i lwyddo yn y swydd, nid yw’r sawl sy’n ei chyfweld yn penderfynu rhoi’r swydd iddi gan nad yw’n hoffi’r syniad o weithio gyda rhywun sy’n credu yn Nuw. Gwahaniaethu uniongyrchol yw hyn.

Enghraifft

Mae dyn Sikhaidd yn mynd â’i gyflogwr i dribiwnlys am wrthod rhoi caniatâd iddo wisgo ‘penwisg’, a bod ei grefydd yn mynnu ei fod yn gwisgo twrban. Mae’n penderfynu gadael y cwmni maes o law, ac yn gofyn i’w gyn-gyflogwr am eirda. Mae’r cyflogwr yn gwrthod, gan ddweud fod y dyn yn ‘creu helynt’ ac na allai ei argymell i gyflogwr arall. Erledigaeth anghyfreithlon yw hyn.

Enghraifft

Mae prif weithredwr yn cyflwyno rheol ‘dim penwisg’ i’r holl staff. Byddai hyn yn rhoi dynion Sikhaidd sy’n gwisgo twrban a dynion Iddewig sy’n gwisgo kippah dan anfantais. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd, a byddai angen ei gyfiawnhau ymhellach neu fe all fod yn anghyfreithlon fel arall.

Enghraifft

Mae rheolwr yn trefnu i’w dîm fynd i gemau pêl-droed unwaith y mis. Yn ystod y tripiau hyn, mae criw o’r gweithwyr yn gweiddi sloganau gwrth-Fwslimaidd ac yn dweud pethau anweddus am Islam. Nid yw’r rheolwr yn gwneud dim i atal ymddygiad y criw. Mae hyn yn enghraifft o aflonyddu crefyddol. Gall cwmnïau gael eu dal yn gyfrifol am achosion o aflonyddu gan staff yn y gweithle neu mewn digwyddiad neu ganolfan sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

Enghraifft

Mae menyw grefyddol yn cyfeirio’n gyson at ei chydweithwyr fel ‘pechaduriaid’ ac yn rhybuddio y byddant yn mynd i uffern pe na baent yn cael tröedigaeth. Mae hyn yn enghraifft o aflonyddu crefyddol.

Enghraifft

Mae gwraig Gristnogol yn mynd ati i dargedu ei chydweithiwr sy’n anffyddiwr, gan geisio ei droi at ei chrefydd hi. Mae hi’n gadael testunau crefyddol ar ei ddesg ac yn ceisio trin a thrafod Cristnogaeth gydag ef. Mae’r dyn yn cwyno wrth ei gyflogwr, sy’n dweud wrtho am beidio â chymryd sylw ohoni. Mae hyn yn enghraifft o gydweithiwr yn aflonyddu ar rywun heb gred grefyddol. Gallai’r cyflogwr wynebu camau cyfreithiol hefyd am beidio â mynd i’r afael â’r mater.


Back to top^  

Addysg a hyfforddiant

Ni ddylai eich credoau crefyddol – neu ddiffyg hynny – effeithio ar eich cyfle i gael addysg neu hyfforddiant (er bod dulliau rhai ysgolion o ddewis disgyblion ar sail crefydd neu gred yn gallu bod yn gyfreithlon mewn rhai amgylchiadau). Ni ddylai hynny effeithio ar safon yr addysg a’r hyfforddiant chwaith.

Mwy o wybodaeth am hawliau disgyblion, myfyrwyr a rhieni o ran addysg a hyfforddiant


Back to top^  

Siopau a gwasanaethau

Does gan neb yr hawl i wrthod cynhyrchion neu wasanaethau i chi ar sail eich crefydd neu gred, neu os nad oes gennych grefydd neu gred.

Enghraifft

Mae perchennog gwesty yn gwrthod gadael i gwpl Mwslimaidd archebu ystafell oherwydd ei fod yn amheus o Fwslimiaid yn dilyn ymosodiadau terfysgol Llundain yn 2005. Byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon.

Enghraifft

Mae rheolwr elusen grefyddol yn diswyddo’r ferch sy’n gweithio yn y dderbynfa ar ôl canfod nad oes ganddi unrhyw gredoau crefyddol mwyach. Mae hyn yn debygol o gael ei ystyried yn wahaniaethu uniongyrchol, gan nad oes rhaid iddi gael credoau crefyddol i wneud ei gwaith.

Mwy o wybodaeth am eich hawliau i gael cynhyrchion a gwasanaethau.


Back to top^  

Iechyd a gofal cymdeithasol

Dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ddiwallu anghenion pobl o bob cefndir. Ni ddylech gael eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall oherwydd eich crefydd neu’ch cred, neu am nad oes gennych chi unrhyw grefydd neu gred.

Enghraifft

Dim ond pobl heb gredoau crefyddol sy’n cael gwneud cais am swydd mewn clinig erthyliad. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu crefyddol anuniongyrchol ar sail crefydd.

Enghraifft

Mae claf yn rhoi tystiolaeth yn erbyn meddyg mewn tribiwnlys lle mae’r meddyg yn ymateb i gyhuddiadau o wahaniaethu ar sail crefydd. Bob tro mae’r claf yn ffonio’r feddygfa i drefnu apwyntiad ar ôl hynny, mae staff y dderbynfa’n dweud nad oes apwyntiad ar gael. Mae hyn yn enghraifft o erledigaeth anghyfreithlon.

Enghraifft

Mae nyrs bob amser yn gwawdio claf am wisgoedd crefyddol ei deulu sy’n dod i’w  weld yn yr ysbyty. Pan fo’r claf yn cwyno, mae’r ysbyty’n dweud wrtho am beidio â phoeni gan mai dim ond ‘cael sbort’ mae’r nyrs. Mae hyn yn enghraifft o aflonyddu crefyddol.

Mwy o wybodaeth am eich hawliau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.


Back to top^  

Tai

Mae gennych yr un hawliau tai â phawb arall, waeth beth fo’ch crefydd neu’ch cred (neu ddiffyg crefydd neu gred). Hefyd, mae gennych bob hawl i fwynhau eich cartref a’ch eiddo heb unrhyw aflonyddwch.

Enghraifft

Dim ond ar ddydd Sadwrn mae’r landlord yn agor y golchdy. Mae hyn yn iawn ar gyfer y rhan fwyaf o’r tenantiaid, sy’n Gristnogion. Er hynny, mae yna denantiaid Iddewig a Mwslim yn y tŷ hefyd. Gan mai dydd Sadwrn yw eu diwrnod crefyddol, ni allent ddefnyddio’r golchdy. Mae polisi’r landlord yn enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd.

Enghraifft

Mae menyw’n rhoi tystiolaeth mewn tribiwnlys yn erbyn landlord sydd wedi gwahaniaethu yn erbyn tenant arall ar sail crefydd. Ar ôl iddi roi tystiolaeth, nid yw’r landlord yn rhoi caniatâd iddi ddefnyddio gerddi cymunedol yr adeilad mwyach. Mae hyn yn enghraifft o erledigaeth.

Enghraifft

Mae gwerthwr yn dweud wrth asiant gwerthu tai i beidio â gwerthu ei chartref i Fwslimiaid. Mae hyn yn gyfarwyddyd anghyfreithlon ar sail crefydd. Os yw’r asiant dan sylw’n derbyn ei chais, yna bydd modd cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y werthwraig a’r asiant ar sail grefyddol.

Mwy o wybodaeth am eich hawliau tai.


Back to top^  

Cyfiawnder

Mae’n anghyfreithlon i rywun eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall ar sail eich crefydd neu’ch cred (neu ddiffyg crefydd neu gred) wrth ddefnyddio’r system cyfiawnder troseddol, neu o ran safon y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, gwasanaethau cyfreithiol a’r llysoedd.

Mwy o wybodaeth am eich hawliau yn y system gyfiawnder.


Back to top^