View this page in English
Croeso i Linell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Rydym yma i gynnig gwybodaeth ac arweiniaeth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol. Rydym yn cynnig gwasanaeth ddwy ieithog gyda chynghorwyr sydd yn hapus i drafod eich ymholiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rydym yn cynnig cyngor a chanllawiau cychwynnol i gyflogwyr ac unigolion ar feysydd sy'n ymwneud â materion gwahaniaethu a hawliau dynol (nid yw hyn yn cwmpasu gwybodaeth neu gynrychiolaeth gyfreithiol). Mae hyn hefyd yn cynnwys lles a darpariaeth gofal iechyd.
Y meysydd a gwmpesir gan gyfraith cydraddoldeb o ran cyflogaeth, addysg a nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yw:
- Hil
- Crefydd a chred
- Rhyw
- Anabledd
- Tueddfryd rhywiol
O ran Oedran, yr unig faes sydd â rheoliadau ar ei gyfer ar hyn o bryd yw cyflogaeth.
Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnig cyngor ar agweddau ar y Ddeddf Iawnderau Dynol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â deddfwriaeth gwahaniaethu.
Gallwch gysylltu â'n Llinell Gymorth yng Nghymru ar:
Ffôn: 0845 604 8810
Ffôn testun: 0845 604 8820
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Oriau agor: Dydd Llun, Mawrth, Iau, Gwener 9:00am – 5:00pm; Dydd Mercher 9:00am-8:00pm ( yr alwad olaf i'w chymryd am 7:45pm)
Ysgrifennu at y linell gymorth
Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd CF10 5BT
Cyflwyno ymholiad ar y linell gymorth
Gallwch ddanfon eich ymholiad wrth ddefnyddio ein ffurflen ymholi’r wefan
A wnewch chi nodi os gwelwch yn dda: Ni fydd y linell gymorth yn derbyn ymwelwyr ac mae’n darparu gwasanaeth ffôn a chyfatebiaeth yn unig. Ni fydd yn darparu cyngor wyneb i wyneb.
Os ydych yn cael anhawster wrth lawrlwytho unrhyw gyhoeddiad a wnewch chi gysylltu â’r linell gymorth os gwelwch yn dda a fydd yn fwy na parod i’ch helpu.