Beth allaf i ei wneud yn ei gylch?
Defnyddio'ch hawliau dynol
English version (of main page): What can I do about it?
Os byddwch chi o’r farn y troseddwyd yn erbyn eich hawliau dynol mewn sefyllfa benodol, gall yr adran hon eich helpu i asesu’r sefyllfa a’ch dewisiadau posibl - y tu mewn a’r tu allan i’r llysoedd.
Efallai y bydd modd i chi ddatrys y broblem heb gymryd camau cyfreithiol: mae ystod o gamau eraill i’w hystyried yn gyntaf i’ch helpu i ddatrys problem. Yn adran hon y wefan, gallwch ddod i wybod am sefydliadau eraill y mae’n bosibl y bydd modd iddynt eich helpu, yn ogystal i gamau ymarferol y gallwch eu cymryd.
Os ydych chi’n dioddef gwahaniaethu, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol hefyd er mwyn gweithredu, neu i gryfhau’ch achos.
Nid oes unrhyw ffordd unigryw o ymdrin â throsedd bosibl yn erbyn hawliau dynol: bydd yn dibynnu ar y cyd-destun ac ar eich amgylchiadau penodol. Fel rheol gyffredinol, efallai y bydd yn ddefnyddiol ystyried y camau canlynol fel canllaw i ymdrin â’ch problem.
Ewch i’r cam nesaf, Egluro’r broblem.
Nodiadau pwysig
Ym mhob achos, bydd terfynau amser sy’n golygu y bydd yn rhaid i chi gymryd camau cyfreithiol yn eithaf cyflym, mewn gwirionedd, er mwyn peidio â cholli eich hawliau. Gall terfynau amser fod yn gymhleth ond, mewn rhai achosion, gallant olygu y bydd yn rhaid i chi fynd ati i ‘godi achos’ mewn llys cyn pen tri mis.
Yn adran hon y wefan, dim ond trosolwg cyffredinol o’r hyn i’w wneud os byddwch chi’n ystyried bod gennych achos hawliau dynol a roddir i chi: rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd cyngor oddi wrth ymgynghorydd hawliau dynol neu gyfreithiwr parchus cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol.
Cydnabyddiaeth
Hoffem ddiolch i Sefydliad Hawliau Dynol Prydain am ganiatáu i ni seilio ychydig o’r deunydd hwn ar eu cyfres o ganllawiau, o’r enw Your Human Rights. Mae’r rhain ar gael ar wefan BIHR.