Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud 

 

English Language Version : What the law says 

 

 

Cewch fwy o wybodaeth am beth ddywed y gyfraith ar faterion iechyd a gofal cymdeithasol mewn deddfwriaethau fel Deddf Iechyd 2006 a Deddf Iechyd Meddwl 2006.

Cewch wybod mwy hefyd am y ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu a hawliau dynol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu Prydain yn diffinio gwahanol fathau o wahaniaethu, fel gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, erledigaeth ac aflonyddu. Darllenwch fwy am y diffiniadau cyfreithiol o wahaniaethu a therminoleg arall, ynghyd ag eithriadau cyfreithiol cyffredinol.

Mae’r Adran Iechyd wedi paratoi canllawiau hawliau dynol ym maes gofal iechyd. Mae’r ddogfen hon yn pwysleisio’r ffaith fod hawliau dynol yn cwmpasu cyfres o egwyddorion craidd, gan gynnwys urddas, cydraddoldeb, parch, tegwch ac ymreolaeth. Mae’r hawliau hyn yn perthyn i bawb bob amser, ac ni ellir eu ‘rhoi’ na’u ‘cymryd i ffwrdd’. Mwy o wybodaeth am hawliau dynol.

On this page

 

Gwahaniaethu cyfreithlon

Mae’n gyfreithlon i wahaniaethu wrth roi gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol mewn rhai amgylchiadau.

Llety un rhyw mewn ysbytai

Mae’n ofynnol ar ysbytai GIG i ddarparu llety un rhyw i gleifion mewnol. Erbyn heddiw, mae tua 97% o ymddiriedolaethau GIG yn bodloni’r safonau a bennwyd gan yr Adran Iechyd o ran llety un rhyw.

Gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer grŵp penodol

Mae’n gyfreithlon darparu gwasanaethau neu gyfleusterau i bobl o grŵp hiliol penodol er mwyn bodloni gofynion penodol o ran addysg, hyfforddiant neu les.

Enghraifft

Mae awdurdod iechyd ardal yn darparu adnoddau i ganolfan sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth sgrinio anaemia cryman-gell a thalasaemia i bobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd, Asiaidd a gwledydd Môr y Canoldir sy’n fwy tebygol o ddioddef o’r anhwylderau hyn yn ôl yr ystadegau. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.

Enghraifft

Mae hosbis sy’n cael ei ariannu gan eglwys yn cadw lle i aelodau o’r grefydd honno neu’r enwad hwnnw. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.

Enghraifft

Mae clinig iechyd rhyw wedi’i sefydlu i wasanaethu menywod yn unig, gan fod darpariaeth briodol eisoes ar waith i ddynion â phroblemau iechyd rhyw yn yr ardal. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.

Pobl â phroblemau seiciatrig

Mae’n bosibl gorfodi pobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu Deddf Iechyd Meddwl (Gofal ac Amddiffyn) (Yr Alban) 2003 i dderbyn triniaeth. Mae Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl a’r Mental Welfare Commission yn yr Alban yn amddiffyn cleifion sy’n analluog i roi caniatâd, neu sy’n gwrthod rhoi caniatâd, i gael triniaeth.

Gwasanaethau maethu a mabwysiadu plant

Er ei bod hi’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail hil yn gyffredinol, mae gan awdurdodau lleol ganiatâd i baru plant maeth gyda chynhalwyr o’r un tarddiad ethnig.

Mae Rheoliadau Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yn rhoi’r hawl i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a heterorywiol beidio â dioddef gwahaniaethu wrth dderbyn a defnyddio nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau maethu a mabwysiadu. Er hynny, mae asiantaethau mabwysiadu sy’n seiliedig ar ffydd wedi cael cyfnod pontio i addasu, cyn gorfod cydymffurfio â’r rheoliadau hyn erbyn diwedd mis Mai 2008. Yn y cyfamser, mae’n rhaid i unrhyw asiantaeth fabwysiadu neu faethu seiliedig ar ffydd gyfeirio cyplau o’r un rhyw at asiantaethau eraill a allai eu helpu.

Ym mhob achos, lles y plentyn sy’n hollbwysig wrth benderfynu lle i’w roi i gael ei fabwysiadu neu ei faethu.


Back to top^