Cyfathrebu
English Language Version : Communication
Mae cyfathrebu da yn hollbwysig i ofal iechyd effeithiol. Dylai holl gleifion a defnyddwyr gofal iechyd neu ofal cymdeithasol gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu triniaeth. Dylent fod yn gallu siarad â’r rhai sy’n rhoi gofal neu sy’n gwneud penderfyniad ynglŷn â’u triniaeth. Cyfrifoldeb eich darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol yw goresgyn unrhyw broblemau cyfathrebu a all godi. Mae hyn yn golygu rhoi digon o gyfleoedd i chi drafod eich sefyllfa gyda’r bobl berthnasol yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi mewn fformat y gallwch ei ddeall.
Efallai nad yw’r lefel cyfathrebu delfrydol yn bosibl bob amser; er enghraifft, pan nad yw’r claf yn gallu cymryd rhan mewn penderfyniadau yn ymwneud â’i driniaeth ef neu hi, neu pan fo sefyllfa argyfyngus yn golygu ei bod hi’n hollbwysig cael triniaeth frys.
Er hynny, os yw’ch darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol yn methu â chymryd camau priodol i gyfathrebu’n effeithiol gyda chi, gall hyn fod yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon mewn rhai achosion. Y gŵyn fwyaf tebygol yw bod rhywun wedi gwahaniaethu yn erbyn y claf naill ai ar sail hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol (os nad ydynt yn siarad yr un iaith), neu ar sail anabledd (os yw’r anabledd yn amharu ar allu rhywun i gyfathrebu). Os yw’r pwnc trafod yn ymwneud â chyflwr meddygol personol sy’n effeithio ar fenywod neu ddynion yn unig, a bod angen cyfieithydd, yna fe allai’r gŵyn fod yn ymwneud ag achos o wahaniaethu ar sail rhyw os nad yw’r cyfieithydd o’r un rhyw â’r claf.
Enghraifft
Mae claf â phroblem feddygol sy’n effeithio ar fenywod yn unig yn cael ei hanfon i ysbyty. Mae’n cael trafferth trafod y mater gan ei bod yn broblem bersonol dros ben. Nid yw’r fenyw’n siarad Saesneg yn dda iawn, ac yn aml yn gofyn i’w mab gyfieithu drosti. Ond ni all wneud hynny y tro hwn, gan ei bod yn broblem bersonol iawn.
Mae’r fenyw yn gofyn am gyfieithwraig er mwyn esbonio’r broblem yn well. Er gwaethaf cais y fenyw, dim ond dynion sydd ar gael i gyfieithu.
Gall hyn fod yn achos o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw a hil.
On this page
Fformat ac iaith
Mae gan ddarparwyr iechyd neu ofal cymdeithasol ddyletswydd i roi gwybodaeth syml a chlir i chi fel defnyddiwr, heb fod yn nawddoglyd. Dylai unrhyw ddeunydd ysgrifenedig a gewch chi fod yn hygyrch, ac ar gael mewn sawl fformat gwahanol yn dibynnu ar eich anghenion chi (fel print bras, Braille, e-bost, crynoddisg, hawdd ei ddarllen, neu mewn unrhyw iaith arall os nad ydych chi’n siarad Saesneg). Mae rhai ymddiriedolaethau GIG yn cynnig gwasanaethau cyfieithwyr a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain.
Nid oes fersiynau parod o’r fformatau hyn ar gael gan lawer o feddygon a gwasanaethau iechyd, ond byddant ar gael ar eich cais. Os nad ydynt, yna fe allech chi fynd i’r gyfraith.
Enghraifft
Mae clinig iechyd cymunedol yn paratoi taflenni gwybodaeth Saesneg am ganser y fron a sgrinio. Mae’r taflenni hyn yn cael eu dosbarthu mewn ardal lle nad yw cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn gallu darllen Saesneg. Mae’r clinig iechyd yn gwrthod cyfieithu’r taflenni i’r ieithoedd mwyaf cyffredin yn yr ardal, er gwaetha’r ceisiadau i wneud hynny. Felly, mae hyn yn golygu bod rhaid i’r cleifion allu darllen Saesneg er mwyn deall a dilyn cynghorion y taflenni. Gall hyn fod yn enghraifft o wahaniaethu ar sail hil.
Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n rhaid i holl awdurdodau’r sector cyhoeddus ddarparu gwasanaethau Cymraeg a Saesneg i’r cyhoedd yng Nghymru.
Back to top^