Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg
Mae gennych hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail eich rhyw ym myd addysg neu pan fyddwch chi’n gwneud cais am le ar gwrs neu mewn ysgol neu goleg.
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i ysgolion preifat a rhai a ariennir gan y wladwriaeth, prifysgolion, colegau Addysg Uwch a darparwyr addysg eraill.
Darllenwch am addysg: eich hawliau
Darllenwch am addysg: Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud
I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau darparwyr addysg, ewch i Darparwyr addysg [link to section in Businesses and organisations].
Beth yw gwahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg?
Gall gwahaniaethu mewn addysg ddigwydd mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft:
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw
Mae ysgol gymysg yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng bechgyn a merched yn yr ysgol trwy dderbyn un rhyw ac nid y llall pan fydd lleoedd yn gyfyngedig. Mae hyn yn debygol o fod yn gwahaniaethu yn uniongyrchol ar sail rhyw ac o fod yn anghyfreithlon.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw
Fe allech chi ddioddef gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw os yw dynion a menywod yn gorfod bodloni’r un amod neu ofyniad er mwyn cael lle ar gwrs neu mewn sefydliad ond, mewn gwirionedd, y byddai llai o lawer o un rhyw yn gallu cydymffurfio ag ef.
Er mwyn dangos bod gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw wedi digwydd, mae’n ddefnyddiol i gael ystadegau sy’n dangos bod yr amod yn cael effaith andwyol ar fwy o aelodau o un rhyw.
Aflonyddu
Mae’n anghyfreithlon i gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch neu bellach aflonyddu arnoch os ydych chi’n fyfyriwr yn y sefydliad neu os ydych wedi gwneud cais am le yn y sefydliad.
Byddai hyn yn berthnasol hefyd pe bai gweithiwr yn eich coleg yn aflonyddu arnoch chi, gan ei bod yn debygol y byddai’r coleg yn atebol am weithredoedd yr aflonyddwr.
Diffinnir aflonyddu naill ai fel:
-
ymddygiad digroeso o natur rywiol sy’n troseddu yn erbyn eich urddas neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu atgas i chi, neu;
-
ymddygiad digroeso ar sail eich rhyw sy’n cael yr un effaith. Nid oes rhaid i hyn fod o natur rywiol a gallai gynnwys cael eich bwlio, er enghraifft, os ydych chi’n credu na fyddai’r aflonyddwr yn trin rhywun o’r rhyw arall fel hyn.