Efallai y byddwch chi’n dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw wrth ymgeisio am swyddi. Mae rhai cyflogwyr yn parhau i feddwl yn ystrydebol am waith menyw a gwaith dyn – er enghraifft, tybio y dylai gweinyddes feithrin fod yn fenyw, neu y dylai gyrrwr bws fod yn ddyn. Weithiau, credir na ellir dibynnu ar fenyw sydd â chyfrifoldebau teuluol, neu nad yw dynion eisiau gweithio’n rhan-amser. Nod unrhyw broses recriwtio ddylai fod i chwilio am yr unigolyn mwyaf priodol i’r swydd o ran profiadau, sgiliau, doniau a chymwysterau.
Gellir gwahaniaethu ar sail rhyw wrth recriwtio a dethol mewn nifer o ffyrdd:
-
gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, er enghraifft, trwy wrthod ystyried menyw am swydd gyrrwr lori oherwydd ei rhyw.
-
gwahaniaethu uniongyrchol ar sail statws priodasol, er enghraifft, bod â pholisi o beidio â chyflogi menywod priod.
-
gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw, er enghraifft, lle mae cyflogwr yn nodi bod rhaid i bob ymgeisydd swydd fod wedi’i gyflogi yn flaenorol yn y Lluoedd Arfog; gan nad oes cymaint o fenywod â dynion wedi gweithio yn y Lluoedd Arfog yn draddodiadol, byddai llai o fenywod na dynion yn gymwys i ymgeisio ac felly byddai menywod dan anfantais.
-
gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail statws priodasol. Un enghraifft o hyn fyddai nodi bod rhaid i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am ddyrchafiad fod yn barod i symud i wahanol ran o’r wlad. Gan na fyddai cymaint o fenywod priod yn gallu gadael eu cartrefi mor rhwydd â menywod sengl (ac yn yr un modd, llai o ddynion priod na dynion sengl), gallai hyn fod yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon ar sail statws priodasol, oni bai bod y cyflogwr yn gallu dangos bod rhaid symud er mwyn cyflawni’r swydd a’i fod, felly, yn ffordd gymesurol o gyflawni nod cyfreithlon. Gall partneriaid sifil gael eu cynnwys mewn unrhyw achos o wahaniaethu ar sail statws priodasol hefyd.
Darllenwch am eich hawliau
Darllenwch beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
I gael mwy o wybodaeth am wahaniaethu wrth recriwtio a dethol, gweler Hawliau ar waith: gweithio ac ennill cyflog.