Gwaith rhan-amser  

 

Mae gwaith rhan-amser yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.  Yn aml, bydd cyflogwyr yn diffinio’r bobl hynny sy’n gweithio llai na’r “wythnos waith arferol” fel rhai rhan-amser.  Gall unrhyw un sy’n gweithio hyd at 30 awr yr wythnos gael ei ystyried fel gweithiwr rhan-amser, ond yn aml bydd yn dibynnu ar dueddiadau ac arferion pob gweithle.  Fe allai gweithwyr rhan-amser ddioddef gwahaniaethu o ran dileu swydd, dyrchafiad, hyfforddiant, cynlluniau pensiwn a buddion, cyflog ac arfarniad swydd.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawl i gael cyflog cyfartal fel gweithiwr rhan-amser, darllenwch Eich hawliau: Cyflog cyfartal i weithwyr rhan-amser.

Darllenwch am eich hawliau.

Darllenwch beth mae'r gyfraith yn ei ddweud.