Gwaith sy’n ystyriol o deuluoedd
Os ydych chi eisiau newid eich oriau gwaith, neu os yw eich cyflogwr yn gwneud newidiadau i’ch oriau gwaith na allwch chi ymdopi â nhw oherwydd eich trefniadau gofal plant, gallwch chi ddefnyddio’r cyngor a roddir yma i’ch helpu i gyflawni patrwm o oriau gwaith sy’n diwallu eich anghenion.
Gall gwahaniaethu ym maes gwaith sy’n ystyriol o deuluoedd amlygu ei hunan mewn nifer o ffyrdd:
-
gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw
-
gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw
-
gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail statws priodasol
-
erledigaeth
Darllenwch am eich hawliau.
Darllenwch beth mae'r gyfraith yn ei ddweud.
I gael mwy o wybodaeth am waith sy’n ystyriol o deuluoedd a gweithio hyblyg, gweler Hawliau ar Waith: gweithio ac ennill cyflog.
On this page
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw
Os gwrthodir eich cais i newid eich oriau gwaith, fe allech chi hawlio eich bod wedi dioddef gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw pe baech chi’n gallu enwi rhywun o’r rhyw arall mewn sefyllfa debyg sydd wedi cael newid ei oriau gwaith.
Pe bai menywod yn y sefydliad yn cael rhannu swyddi, ond nid dynion, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw yn erbyn dynion.
Back to top^
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw
Am fod gan fwy o fenywod gyfrifoldebau teuluol na dynion ac felly eisiau gweithio’n rhan-amser, gallai polisi sy’n gofyn i bawb weithio’n llawn amser fod yn gwahaniaethu yn anuniongyrchol ar sail rhyw gan y byddai’n rhoi menywod dan anfantais arbennig.
Back to top^
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail statws priodasol
Am fod gan fwy o fenywod priod gyfrifoldebau gofal plant na menywod sengl, gallai polisi sy’n gofyn i bawb weithio’n llawn amser fod yn gwahaniaethu yn anuniongyrchol ar sail statws priodasol. Nodwch: rhaid eich bod chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil ar yr amser perthnasol; nid oes unrhyw statws priodasol arall yn cael ei gynnwys yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.
Back to top^
Erledigaeth
Efallai y gallwch gyflwyno achos o erledigaeth os bydd eich cyflogwr yn eich disgyblu am eich bod wedi cwyno ei fod ef neu hi wedi ymddwyn yn anghyfreithlon trwy beidio â gadael i chi weithio’n rhan-amser.
Back to top^