View this page in English
Gan gydymffurfio â thelerau Deddf Iaith Gymraeg 1993, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Cymeradwywyd y cynllun gan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ym mis Mai 2008 a'r cam nesaf yw lansio'r cynllun drwy'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac i'r cyhoedd.
Cyn cyflwyno'r cynllun, rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghoriad. Mae copi o'r cynllun drafft bellach ar gael:
Cynllun Iaith Gymraeg Drafft – am ymgynghoriad (Word 800kb)
Os bydd gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ar ôl ei ddarllen cysylltwch â'r CCHD Cymru erbyn dydd Llun 28 Gorffennaf 2008.
Prif Swyddfa Cymru
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
E-bost: wales@equalityhumanrights.com
Ar ôl y dyddiad hwn caiff y cynllun ei gyflwyno i Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer ei gymeradwyaeth. Yn dilyn hyn, bydd cyfrifoldeb ar holl staff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am yr angen i ystyried darparu deunydd Cymraeg perthnasol.