Geiriau a ddefnyddir i ddiffinio anabledd
Efallai y bydd yn ddefnyddiol edrych yn fanylach ar y geiriau a ddefnyddir yn niffiniad y DGSA o anabledd. Mae’r adran hon yn esbonio rhai o’r telerau cyffredin a’r hyn y maent yn ei olygu.
On this page
Nam corfforol neu feddyliol
Cyflwr sy’n effeithio ar y corff, trwy nam ar y golwg neu’r clyw efallai, anhawster symud neu gyflwr iechyd, yw nam corfforol.
Cyflwr sy’n effeithio ar ‘weithredu meddyliol’, er enghraifft, anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl fel iselder manig, yw nam meddyliol.
Back to top^
Sylweddol
Ystyr ‘sylweddol’ yw mwy nag ‘ysgafn’ neu ‘ddibwys’. Gall y canlynol eich helpu i benderfynu a yw eich anabledd neu gyflwr iechyd yn sylweddol.
Wrth gyflawni tasgau pob dydd, a yw eich cyflwr yn eu gwneud yn anoddach o ran:
- yr amser a gymerir ar weithgaredd, o’i gymharu â rhywun nad yw’n dioddef eich nam;
- y ffordd y cyflawnir gweithgaredd, o’i gymharu â sut y gellid eich disgwyl i gyflawni’r gweithgaredd pe na bai’r nam gennych; neu’r
- effaith gronnus gyffredinol o gymryd mwy nag un gweithgaredd gyda’i gilydd?
Os bydd newid eich ymddygiad yn lleihau’r effeithiau andwyol (neu negyddol) eich nam ar weithgareddau pob dydd, efallai na fyddwch wedi’ch cynnwys gan y DGSA. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi fynd i eithafion mawr i newid eich ymddygiad. Er enghraifft, nid oes yn rhaid i rywun ag atal dweud osgoi mynd i leoedd lle gallant gyfarfod â phobl. Gallai’r newid hwn ei hun effeithio’n andwyol ar eich gweithgareddau pob dydd.
Os bydd llwyddiant unrhyw strategaethau ymdopi a ddefnyddir gennych i leihau effaith andwyol eich nam yn cael ei leihau gan ‘ffactorau amgylcheddol’ (fel gwres llethol, lleithder, pa mor flinedig ydych neu faint o straen rydych chi’n ei brofi), dylid cymryd hyn i ystyriaeth.
Back to top^
Effeithiau triniaeth
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni ddylid cymryd eich triniaeth neu offer a ddefnyddir gennych ar gyfer eich anabledd neu gyflwr iechyd wrth benderfynu a ydych yn ‘anabl’ o dan y gyfraith. Hyd yn oed os nad yw’r nam yn amlwg, ond heb driniaeth y byddai’n achosi effeithiau andwyol sylweddol, yna byddai’n dal i fodloni’r rhan hon o’r diffiniad. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r gyfraith yn gymwys i chi os byddai eich cyflwr yn eich effeithio’n fawr oni bai am feddyginiaeth neu driniaeth.
Felly, er enghraifft, dylai rhywun sy’n cymryd meddyginiaeth i reoli epilepsi ystyried effaith peidio â chymryd y feddyginiaeth ar fyw pob dydd. Petai gan epilepsi effaith ‘sylweddol’ arno heb feddyginiaeth, byddai’n bodloni’r rhan hon o’r diffiniad.
Yr unig eithriad yw sbectol neu lensys cyffwrdd: nid yw pobl y caiff eu nam ei gywiro gan sbectol neu lensys cyffwrdd wedi’u cynnwys.
Fodd bynnag, os ydych chi wedi’ch ardystio’n ddall neu’n rhannol ddall gan offthalmolegydd ymgynghorol, neu wedi’ch cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall gydag awdurdod lleol, cewch eich ystyried yn ‘anabl’ yn awtomatig. Nid oes yn rhaid i chi ddangos bod eich cyflwr yn bodloni’r diffiniad a nodir yn y DGSA.
Os ydych chi’n dioddef o ganser, HIV neu sglerosis ymledol, cewch eich ystyried yn awtomatig fel bod yn ‘anabl’ o dan y DGSA. Darllenwch fwy am hyn yn Hawliau i bobl ag MS, canser neu HIV.
Mae pobl sy’n dioddef afiechydon cynyddol eraill, fel arthritis gwynegol, yn destun darpariaethau arbennig yn y DGSA. Ystyrir bod gan gyflwr cynyddol effaith andwyol sylweddol o’r adeg y bydd unrhyw nam a geir o ganlyniad i’r cyflwr hwnnw yn effeithio mewn rhyw ffordd ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd-i-ddydd cyffredin.
Ystyrir bod gan anffurfiadau difrifol effaith andwyol sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd-i-ddydd cyffredin, ac nid oes yn rhaid i chi ddangos na phrofi hyn. Efallai y bydd angen ystyried difrifoldeb a lleoliad yr anffurfiad, nid yr effaith ar weithgareddau pob dydd.
Back to top^
Hirdymor
Ystyr hirdymor yw bod effaith y nam wedi para, neu’n debygol o bara, am 12 mis neu fwy o’r adeg y dechreuodd, neu am weddill eich bywyd.
Mae effeithiau rhai cyflyrau yn mynd ac yn dod. Fodd bynnag, os bydd yr effeithiau andwyol yn fwy tebygol o ddigwydd eto nag o beidio â digwydd eto, ystyrir bod yr effaith yn parhau.
Back to top^
Gweithgareddau ddydd-i-ddydd normal
Diffinnir bod y rhain yn cynnwys unrhyw un o’r canlynol:
• symudedd;
• gwneud rhywbeth gyda’ch dwylo;
• cydsymud corfforol;
• ymataliaeth (rheoli eich pledren a’ch coluddion);
• y gallu i godi, cario neu symud gwrthrychau cyffredin;
• lleferydd, clyw neu olwg;
• cof neu allu i ganolbwyntio, dysgu neu ddeall; neu
• ganfyddiad o’r risg o ran perygl corfforol.
O bryd i’w gilydd, bydd yn amlwg os byddwch yn cael un o’r pethau uchod yn anodd, y bydd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni llawer o weithgareddau pob dydd. Fodd bynnag, mae’r meysydd unigol hyn yn haeddu mwy o sylw, er mwyn egluro a yw cyflwr yn debygol o fodloni’r diffiniad o anabledd o dan y DGSA.
Sylwch, gall y wybodaeth isod nodi’n unig a yw’n debygol y gellir eich diffinio’n anabl o dan y DGSA: dim ond y llysoedd sy’n gallu penderfynu’n bendant a yw’r DGSA yn gymwys i chi.
Back to top^
Symudedd
Mae hyn yn cynnwys symud neu newid safle am fod cyflwr corfforol neu feddyliol yn eich atal rhag symud heb gymorth, rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, eistedd, sefyll, plygu, estyn neu symud o amgylch mewn man anghyfarwydd. Gallai hyn fod o ganlyniad i gyflwr corfforol, fel clefyd cronig y galon; cyflwr iechyd meddwl, fel pryder difrifol; neu nam ar y golwg.
Er enghraifft, os ydych chi’n ei chael yn anodd:
• teithio pellter byr mewn car fel teithiwr
• defnyddio un math o drafnidiaeth gyhoeddus neu fwy
• cerdded, ar wahân i gerdded yn araf neu â symudiadau anesmwyth
• dringo neu ddisgyn grisiau neu riwiau serth
• mynd y tu allan ar eich pen eich hun
mae’n debygol bod gennych gyflwr a chanddo effaith andwyol sylweddol ar eich symudedd.
Fodd bynnag, os ydych chi’n dioddef rhywfaint o anghysur yn unig ar ôl cerdded am ryw gilomedr a hanner, neu filltir, neu wedi teithio fel teithiwr mewn car am fwy na thua dwy awr heb unrhyw effeithiau eraill ar eich nam, mae’n annhebygol y byddai hyn yn cael ei ystyried yn effaith andwyol sylweddol.
Back to top^
Gwneud rhywbeth gyda'ch dwylo
Mae colli gallu mewn un llaw neu’r ddwy law (yn arbennig os dyma’r llaw a ddefnyddir fwyaf gennych) neu anallu i drin gwrthrychau bach, yn cael ei ystyried yn effaith andwyol sylweddol. Ond rhaid ystyried lefel y gallu a gollwyd.
Os nad oes modd i chi ddefnyddio cyllell a fforc ar yr un pryd, gwasgu botymau ar fysellfwrdd ar yr un cyflymder â rhywun heb nam, neu gydsymud y defnydd o’ch dwy law gyda’i gilydd, mae’n debygol bod gan eich nam effaith andwyol sylweddol.
Fodd bynnag, os mai’r effaith sylweddol yw, er enghraifft, nad oes modd i chi roi edau mewn nodwydd neu na allwch deipio ar gyflymder sy’n safonol ar gyfer gwaith ysgrifenyddol, mae’n annhebygol yr ystyrir eich bod yn dioddef effaith andwyol sylweddol.
Back to top^
Cydsymud corfforol
Dyma eich rheolaeth dros eich corff, ac mae’n cynnwys cydsymud llaw-llygad. Dylech ystyried a yw gwneud mwy nag un gweithgaredd ar yr un pryd yn achosi her i chi. Er enghraifft, a yw’n anodd cerdded a defnyddio eich dwylo ar yr un pryd?
Mae enghreifftiau o ddioddef effaith andwyol sylweddol yn cynnwys ei chael yn anodd arllwys hylif o un cynhwysydd i’r llall, neu ei chael yn anodd rhoi bwyd yn eich ceg heb ganolbwyntio neu gael cymorth i raddau anarferol.
Fodd bynnag, os ydych chi, yn syml, ychydig yn lletchwith neu’n methu â dal pêl, ac mai dyma unig effaith eich nam, mae’n annhebygol y byddai hyn yn cael ei ystyried fel achosi effaith andwyol sylweddol.
Back to top^
Ymataliaeth
Mae hyn yn cynnwys y gallu i reoli rhyddhau wrin neu garthion. Caiff amlder a difrifoldeb y colli rheolaeth eu hystyried.
Os ydych chi’n colli rheolaeth ar eich coluddyn yn anaml, sy’n gwbl anrhagweladwy ac yn arwain at faeddu difrifol ar unwaith, bydd yn rhesymol ystyried hyn yn effaith andwyol sylweddol, yn yr un modd â cholli rheolaeth ar y bledren wrth i chi gysgu o leiaf unwaith y mis, a cholli rheolaeth ar eich pledren neu goluddyn i raddau llai ond rheolaidd, yn arbennig os yw’n anrhagweladwy.
Fodd bynnag, ni ystyrir bod colli rheolaeth ar y bledren yn anaml wrth gysgu, neu ollyngiad bach ac anaml o’r bledren, yn effaith andwyol sylweddol.
Back to top^
Y gallu i godi, cario neu symud gwrthrychau cyffredin
Yr hyn sy’n bwysig yw a oes modd i chi godi, cario neu symud gwrthrychau pob dydd dros gyfnod rhesymol o amser, neu ailadrodd y gweithgareddau hyn. Mae gweithgareddau pob dydd yn cynnwys bagiau siopa; casys cario papurau; bagiau nos; cadeiriau neu ddarnau ysgafn o ddodrefn eraill; tegellau; neu lyfrau.
Efallai y bydd effaith andwyol sylweddol yn golygu anallu i gario gwrthrychau nad oeddent yn drwm iawn ag un llaw neu ei chael yn anodd cario hambwrdd llawn bwyd yn ddi-sigl.
Os nad oes modd i chi gario bagiau trwm heb help, neu symud gwrthrychau trwm heb gymorth fel troli, mae’n annhebygol y bydd hyn yn cael ei ystyried yn effaith andwyol sylweddol.
Back to top^
Lleferydd, clyw a golwg
Mae hyn yn cynnwys y gallu i siarad, clywed neu weld, a chyfathrebu, naill ai wyneb-yn-wyneb, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig.
Lleferydd
Wrth ystyried effeithiau andwyol sylweddol, rhaid ystyried gallu rhywun i siarad yn eglur ar gyflymder a rhythm arferol, ac i ddeall rhywun arall yn siarad yn arferol yn ei iaith ei hun.
Os nad oes modd i chi roi cyfarwyddiadau llafar sylfaenol eglur, neu ofyn cwestiynau i egluro cyfarwyddiadau, neu mae’n cymryd llawer mwy o amser i chi siarad na rhywun heb nam ar y lleferydd, mae’n debygol y bydd hyn yn cael ei ystyried yn effaith andwyol sylweddol.
Fodd bynnag, os oes gennych nam, atal dweud neu floesgni ysgafn ar y lleferydd, neu nad oes modd i chi siarad y tu flaen i gynulleidfa oherwydd nerfusrwydd, mae’n annhebygol y caiff hyn ei ystyried yn effaith andwyol sylweddol. Os ydych yn ei chael yn anodd siarad mewn iaith nad yw’n iaith frodorol i chi, nid yw hyn yn cyfrif fel effaith andwyol sylweddol.
Clyw
Os ydych chi’n defnyddio dyfais fel cymorth clyw, dylech ystyried beth yw cyflwr eich clyw heb y ddyfais a sut y byddai hynny’n effeithio arnoch, yn arbennig mewn amgylchiadau lle mae lefel y sain cefndir oddi mewn i ystod lle byddai’r rhan fwyaf o bobl yn gallu clywed yn ddigonol.
Os ydych chi’n ei chael yn anodd gwrando ar rywun yn siarad ar lefel sy’n normal ar gyfer sgyrsiau pob dydd neu i ddeall rhywun yn siarad yn eglur ar ffôn llais, mae’n debygol y byddai hyn yn cael ei ystyried effaith andwyol sylweddol.
Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd anallu i gynnal sgwrs mewn man swnllyd iawn, fel llawr ffatri neu adeilad prysur, yn cyfrif fel effaith andwyol sylweddol.
Golwg
Rhaid i chi ystyried beth yw cyflwr eich golwg wrth wisgo unrhyw sbectol neu lensys cyffwrdd a ddefnyddir i gywiro eich golwg. Mae hyn yn anarferol ar gyfer y DGSA, am y caiff ‘effaith andwyol sylweddol’ ei ystyried bob amser heb gymhorthion a theclynnau cywiro, ac eithrio mewn perthynas â golwg.
Mae’n annhebygol yr ystyrir bod cyflwr yn achosi effaith andwyol sylweddol i chi os na allwch, hyd yn oed gyda’ch golwg wedi’i gywiro gan sbectol neu lensys cyffwrdd, basio’r prawf golwg yn ystod prawf gyrru safonol; ydych chi’n ei chael yn anodd adnabod rhywun trwy olwg ar draws ystafell o faint cymedrol; heb fod yn gallu gwahaniaethu rhwng lliwiau o gwbl; yn ei chael yn anodd darllen print papur newydd arferol; neu’n ei chael yn anodd cerdded yn ddiogel heb daro yn erbyn pethau.
Os na allwch ddarllen print mân iawn heb chwyddwydr, adnabod rhywun rydych chi’n gyfarwydd â nhw ar draws maes chwarae neu wahaniaethu rhwng coch a gwyrdd, nid yw’n rhesymol ystyried bod eich cyflwr wedi cael effaith andwyol sylweddol arnoch.
Back to top^
Cof neu allu i ganolbwyntio, dysgu neu ddeall
Rhaid i chi ystyried eich gallu i gofio, trefnu meddyliau, cynllunio camau gweithredu a’u cyflawni, ennill gwybodaeth newydd, deall cyfarwyddiadau ar lafar neu rai ysgrifenedig, yn ogystal â’r cyflymder y gallwch ddysgu. Yn ogystal, dylech ystyried eich gallu i ddarllen a defnyddio rhifau.
Mae enghreifftiau o effaith andwyol sylweddol yn cynnwys:
- colli ymwybyddiaeth ar hap ac ymddygiad dryslyd
- anhawster cyson wrth geisio cofio enwau aelodau o’ch teulu neu gyfeillion
- ei chael yn anodd o ran ymdopi â newidiadau bach mewn trefn ar ôl cyfnod rhesymol
- anallu i ysgrifennu siec heb gymorth
- cael problemau mawr wrth ddilyn dilyniant byr fel coginio rysáit neu restr fer o bethau i’w gwneud yn y cartref
- ei chael yn anodd cymryd rhan mewn rhyngweithio cymdeithasol normal.
Nid yw’n rhesymol dweud bod effaith andwyol sylweddol os:
- ydych chi, o bryd i’w gilydd, yn anghofio enw rhywun cyfarwydd
- nad oes modd i chi ganolbwyntio ar dasg am nifer o oriau ac nad ydych yn gallu llenwi dogfen dechnegol hir a manwl heb gymorth
- nad oes modd i chi ddarllen yn gyflymach na’r cyflymder arferol
- ydych chi’n cael mân broblemau wrth ysgrifennu neu sillafu.
Back to top^
Canfyddiad o'r risg o ran niwed corfforol
Mae hyn yn cynnwys amcangyfrif y risg o ran perygl corfforol yn rhy isel ac yn rhy uchel, gan gynnwys perygl i’ch lles. Rhaid i chi ystyried a ydych chi’n aml yn peidio â chyflawni swyddogaethau sylfaenol fel bwyta, yfed, cysgu, cadw’n gynnes neu hylendid personol; os ydych chi’n aml yn ddi-hid, gan eich rhoi’ch hun a phobl eraill mewn perygl; neu’ch bod yn cymryd camau gormodol i osgoi gweithgareddau arferol heb achos da oherwydd ofn neu bryder.
Mae’n debygol y bydd effaith andwyol sylweddol os ydych chi’n ei chael yn anodd gweithredu darn o offer yn ddiogel; yn cael anhawster cyson wrth groesi’r ffordd yn ddiogel; os na fyddwch yn bwyta pan fo angen i chi; neu os na allwch ddweud os yw gwrthrych yn boeth neu’n oer trwy gyffwrdd.
Nid yw’n debygol y bydd effaith andwyol sylweddol os ydych chi’n ofni uchderau go iawn neu’n amcangyfrif yn rhy isel y risgiau sy’n ymwneud â chwaraeon peryglus, fel dringo mynyddoedd.
Back to top^