Beth mae’r ddeddf yn ei ddweud 

 

English Language Version : What the law says

 

 

Mae eich hawliau i beidio â wynebu gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail anabledd yn cael ei ddiogelu gan:

  • y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
  • y Ddeddf Hawliau Dynol

On this page

 

Y Ddeddf Gwahaniaethau ar sail Anabledd

Nod Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA) 1995 yw rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn ei wynebu. Mae’r Ddeddf hon wedi’i hymestyn yn sylweddol, gan gynnwys Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005. Mae bellach yn rhoi hawliau i bobl anabl ym meysydd:

  • cyflogaeth
  • addysg
  • mynediad i nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
  • prynu neu rentu tir neu eiddo, gan gynnwys ei gwneud yn haws i bobl anabl rentu eiddo ac i denantiaid wneud addasiadau sy’n gysylltiedig ag anabledd

Mae’r Ddeddf bellach yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Mae hefyd yn caniatáu i’r llywodraeth osod safonau sylfaenol fel y gall pobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd.


Back to top^  

Y Ddeddf Hawliau Dynol

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn cyflwyno’r hawliau sydd gennych chi o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i gyfraith y DU. Os byddwch chi’n wynebu gwahaniaethu ar sail anabledd, efallai y bydd gennych chi achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Enghraifft

Os na chafodd gwybodaeth angenrheidiol am yr achos mewn gwrandawiad llys ei darparu mewn ffordd hygyrch, gallech chi gyflwyno cais o dan y DGSA am fethu â darparu gwybodaeth hygyrch - a hefyd o dan y Ddeddf Hawliau Dynol am fethu â chaniatáu i chi gael gwrandawiad teg.


Back to top^