English Language Version : Disability in employment
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA) yn dweud ei bod hi’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn os ydych chi’n anabl:
-
o ran telerau’r gyflogaeth sy’n cael ei chynnig;
-
o ran y cyfleoedd i gael dyrchafiad, trosglwyddo, hyfforddiant neu dderbyn unrhyw fantais arall;
-
trwy wrthod cynnig, neu beidio â chynnig yn fwriadol, unrhyw gyfle o’r fath i chi; neu
-
trwy eich diswyddo, neu eich trin mewn unrhyw ffordd negyddol arall.
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd o safbwynt y canlynol:
Yn y gwaith
Mynediad i Waith
Recriwtio a dyrchafiad
Perfformiad, hyfforddiant a datblygu
Gadael gwaith
Am wybodaeth i gyflogwyr am wneud addasiadau ar gyfer gweithwyr cyflogedig anabl gweler Busnesau a sefydliadau: Cyflogwyr.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith, gweler Hawliau ar waith: gweithio ac ennill cyflog.