Cyfraith sifil a throseddol  

 

Os nad yw’r heddlu’n ymwneud ag anghytfod, mae’n fater o gyfraith sifil yn hytrach na chyfraith droseddol.  Achosion sifil, yn hytrach na throseddol yw’r rhan fwyaf o’r rhai lle mae gwahaniaethu dan sylw.  Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymwneud â materion cyfraith sifil, nid cyfraith droseddol na throseddau.

Mae eich hawliau dynol yn berthnasol i system y llysoedd sifil yn ogystal ag achosion troseddol.  Er enghraifft, mae gennych hawl i gael treial teg mewn achos yn y llys sirol neu dribiwnlys cyflogaeth, yn ymwneud â chyflogau heb eu talu, er nad yw’n dreial troseddol.

On this page

 

Cyfraith sifil

Mae’r rhan fwyaf o achosion sifil yn ymwneud ag anghydfod rhwng unigolion neu sefydliadau.

Er enghraifft: os yw darparwr gwasanaeth yn codi tâl ar gwsmer i ddarparu cadair olwyn, a bod y cwsmer yn dwyn achos cyfreithiol ar sail gwahaniaethu, byddai’r achos yn un sifil a byddai’n cael ei glywed mewn llys sirol yng Nghymru a Lloegr ac yn Llys y Siryf yn yr Alban.

Rhaid profi achosion sifil yn ôl pwysau tebygolrwydd - hynny yw, mae’n fwy tebygol na pheidio bod y diffynnydd yn atebol - yn hytrach nag ar yr egwyddor “tu hwnt i amheuaeth resymol” a ddefnyddir wrth benderfynu ar achosion troseddol.

Yn aml, bydd materion cyflogaeth yn cael eu clywed yn gyntaf mewn tribiwnlys.  Mwy o wybodaeth am broses y tribiwnlys o’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.


Back to top^  

Cyfryngu a chymodi

Yn aml, mae’n bosibl datrys achosion sifil trwy gyfryngu a chymodi, gan osgoi achos llys a allai fod yn ddrud a chymryd amser maith.

Mwy o wybodaeth am gyfryngu:

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau er mwyn helpu i ddatrys anghydfodau yn y gweithle heb fynd i’r llys.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Cyfryngu Genedlaethol ar 0845 60 30 809.

Darllenwch gyflwyniad i'r system farnwrol.

Canolfan Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (CEDR)

Darllenwch gyflwyniad i'r system farnwrol.


Back to top^