Pryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon?
Darllenwch yr enghreifftiau isod am bryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon:
On this page
Cyflogaeth
Gwaith ar gyfer tŷ preifat, lle bo achos o wahaniaethu ar sail lliw neu genedligrwydd. Er hynny, gwaherddir unrhyw achos o wahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol ar gyfer y math hwn o waith.
Caniateir gwahaniaethu yn y gwaith ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol os yw’r angen i fod yn weithiwr o darddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol arbennig yn ofyniad gwirioneddol a phenodedig ar gyfer y gwaith, a’i bod hi’n addas i gyflwyno’r gofyniad hwnnw mewn achos penodol. Caniateir gwahaniaethu ar sail lliw a chenedligrwydd hefyd lle bo rhaid i rywun berthyn i grŵp hiliol penodol fel cymhwyster galwedigaethol gwirioneddol ar gyfer y swydd. Mae’r Ddeddf yn nodi’r amgylchiadau lle byddai hyn yn berthnasol.
Nid yw darpariaethau’r Ddeddf yn berthnasol lle bo rhywun yn gwahaniaethu ar sail lliw neu genedligrwydd, a lle bo’r gweithiwr yn cael ei gyflogi’n gyfan gwbl y tu allan i Brydain.
Lle bo rhywun yn gwahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol, a bod y gweithiwr yn cael ei gyflogi’n gyfan gwbl mewn gwlad dramor. Er hynny, gall gweithiwr gael ei amddiffyn o dan y Ddeddf os oes gan y cyflogwr safle busnes ym Mhrydain, a bod y gweithiwr yn byw ym Mhrydain pan fo’n ymgeisio neu’n cael cynnig y swydd neu unrhyw bryd yn ystod y swydd.
Ni ellir gwahaniaethu yn erbyn llongwyr o’r tu allan i Brydain, oni bai eich bod yn gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd a bod hynny’n gysylltiedig â chyflog.
Back to top^
Tai
Mae perchen-feddianwyr sy’n gwerthu neu’n gosod eu heiddo wedi’u heithrio o’r Ddeddf ddiwygiedig os nad ydynt yn hysbysebu neu’n defnyddio asiant tai, a’u bod yn gwahaniaethu ar sail lliw neu genedligrwydd. Nid yw’r eithriad yn berthnasol os ydynt yn gwahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedligrwydd.
Mae’r llety rhent mewn “adeilad bach”, lle mae’r landlord neu’r perchennog neu aelod o’i deulu hefyd yn byw, a lle byddai rhaid iddynt rannu cyfleusterau â phobl nad ydynt yn rhan o’r teulu. Yr eithriad i hyn yw pan fo’r gwahaniaethu ar sail lliw neu genedligrwydd, ond nid os yw’n achos o wahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol.
Back to top^
Nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
Nid yw’r Ddeddf ddiwygiedig yn berthnasol:
-
i dderbyn a gofalu am blant maeth neu bobl hŷn
-
i glybiau, cymdeithasau ac elusennau a sefydlwyd yn unswydd ar gyfer pobl o grŵp ethnig neu genedligrwydd penodol; nid yw gwahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedligrwydd yn anghyfreithlon, ond mae gwahaniaethu ar sail lliw wedi’i wahardd.
Back to top^
Unrhyw swyddogaeth gyhoeddus
Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol:
-
i waith Dau Dŷ’r Senedd na’r gwasanaethau diogelwch
-
i gamau gweithredu barnwrol neu ddeddfwriaethol a phenderfyniadau i beidio ag erlyn
-
i rai swyddogaethau mewnfudo a chenedligrwydd lle caniateir achos o wahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol.
Meysydd eraill y tu hwnt i gwmpas y Ddeddf
Nid yw’r meysydd hyn yn rhan o’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol chwaith:
-
unrhyw beth a ysgrifennwyd, cynhyrchwyd neu a ddarlledwyd gan y cyfryngau — mae cyfraith enllib ond yn berthnasol i unigolion yn unig, nid grwpiau o bobl
-
unrhyw beth a wnaed dan ‘awdurdod statudol’ er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Seneddol (pryd bynnag y’i pasiwyd), neu reolau neu reoliadau a gyflwynwyd gan weinidog y llywodraeth o dan unrhyw ddeddf; er enghraifft, efallai bod rhiant yn gwahaniaethu ar sail hil wrth ddewis ysgol i’w blentyn, ond mae’n gwbl gyfreithlon dan ddeddfau addysg
-
ymosodiadau hiliol neu achos o aflonyddu ar y stryd neu yn eich cartref; gallai’r rhain fod yn droseddau a dylid dweud wrth yr heddlu (link) Ydy aflonyddu, cam-drin a thrais hiliol wedi’u cynnwys?
-
achos o wahaniaethu sy’n digwydd yng ngwledydd eraill yr UE; er hynny, mae gan lawer o wledydd eu deddfau eu hunain ar wahaniaethu ar sail hil. Roedd cyfarwyddeb hil yr UE, a gymeradwywyd ym mis Mehefin 2000, yn gofyn i holl wledydd yr UE gyflwyno deddfau i wahardd gwahaniaethu ar sail hil erbyn mis Gorffennaf 2003
-
gwahaniaethu ar sail crefydd.
Back to top^