Cydraddoldeb yn allweddol i sicrhau cymdeithas well i bawb, 

 

 

1 Medi 2008

View this page in English

Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi penodi’r gyfreithwraig Eleanor Williams o Gasnewydd fel Pennaeth yr Adran Gyfreithiol. Bydd Eleanor yn arwain tîm cyfreithiol y Comisiwn yng Nghymru, sy’n rhoi cyngor i unigolion a sefydliadau a chanddo bwerau i orfodi deddfwriaeth cydraddoldeb.

Mae Eleanor Williams yn ymuno â’r Comisiwn o gwmni cyfreithiol Darwin Gray lle enillodd ei phlwyf fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU ar wahaniaethu.

Mae hawliau dynol a chydraddoldeb wedi bod yn agos at galon Eleanor ers iddi ddioddef gwaedlif yn yr ymennydd yn 16 oed a gorfod defnyddio cadair olwyn am naw mlynedd o ganlyniad.

Meddai Eleanor: “Mae gen i brofiad personol o’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd, nad ydynt bob amser yn amlwg i bobl eraill. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau fy swydd newydd, a bod ar flaen y gad wrth geisio mynd i’r afael â phob math o wahaniaethu. Rwy’n credu’n gryf bod cymdeithas deg a chyfiawn o fudd i bawb ac felly ni ddylid ystyried cydraddoldeb fel rhywbeth ar gyfer y lleiafrifoedd. Rwy’n awyddus i ganfod beth yw’r ffyrdd gorau o ddefnyddio ein harbenigedd a phwerau i ddatblygu’r agenda hawliau dynol a chydraddoldeb yng Nghymru.”

Meddai Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: “Rwy’n falch iawn o groesawu Eleanor at ein sefydliad ar amser pwysig iawn i gydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy’n gwybod y bydd hi’n aelod gwerthfawr o’r tîm. Mae ei stori bersonol yn ysbrydoliaeth i eraill ac mae ei harbenigedd cyfreithiol yn rhagorol.

“Wrth i’r Comisiwn agosáu at ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, rydym yn ceisio cryfhau ein tîm ac adeiladu ar y gwaith rydyn ni eisoes wedi’i wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae penodi Eleanor yn rhan hanfodol o hyn, a gyda hi yn y tîm, rydyn ni’n hynod awyddus i fynd i’r afael â’r heriau o’n blaen.“

Mae Eleanor wedi bod yn aelod o Bwyllgor y Comisiwn yng Nghymru ers sefydlu’r Comisiwn ar 1 Hydref 2007, ond bydd yn rhoi’r gorau i’r swydd unwaith iddi ymuno â staff llawn amser y Comisiwn.

Mae Eleanor wedi darlithio ym Mhrifysgol Cymru, Prifysgol Sheffield Hallam ac Ecole de Hautes Etudes Commerciales yn Lille. Hi yw Swyddog Cyfle Cyfartal Cydffederasiwn Cymdeithasau'r Gyfraith Cymru a chyfarwyddwr Cymdeithas Cyfreithwyr Gwahaniaethu. Mae’n gynghorydd cyfreithiol i Gymdeithas Frenhinol Anabledd ac Adsefydlu ac mae’n hyfforddi cyfreithwyr ar ddeddfwriaeth gwrthwahaniaethu. Yn gynharach eleni, penodwyd Eleanor yn Gadeirydd Pwyllgor Barnado’s Cymru ac mae’n un o ymddiriedolwyr Barnado’s UK.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am gyfweld gydag Eleanor, ffoniwch Jamie Westcombe, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ar (029) 2066 7783.

Nodiadau i Olygyddion

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a ysgwyddodd gyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.