Hawliau Dynol yn coroni gig yr Eisteddfod 

 

 

View this page in English

Heno mae Cerys Matthews yn serennu mewn digwyddiad  cerddorol byw arbennig unigryw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Noddir y gig sy wedi’i werthu’n llwyr gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Amnest Rhyngwladol a bydd yn hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru.

Mae rhes aruthrol o berfformiadau yn addo noson wych yn amrywio o ganu gwerin i roc yng nghwmni rhai o gerddorion mwyaf talentog Cymru.

Yn y gig heno bydd Cerys Matthews, Fflur Dafydd a'r Barf ac eraill yn siarad am ymhel â a gweithredu ar faterion hawliau dynol yng Nghymru fel:

  • trais yn erbyn menywod a masnachu rhyw
  • rhagfarn a throseddau casineb yn erbyn y sipsi a theithwyr ac eraill
  • plant a phobl ifanc yn cael eu trin heb urddas a pharch mewn ysbytai, ysgolion a’r system cyfiawnder troseddol.

Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
'Eleni byddwn yn dathlu 60 mlynedd ers Datganiad y Cenedloedd Unedig ar Hawliau Dynol – eto bydd llawer ohonom yn dal yn cael ein trin heb urddas na pharch.  Mae’r  Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Amnest yn benderfynol y bydd gweithredu i ddiogelu ac hyrwyddo hawliau dynol yn flaenllaw yn agenda wleidyddol Cymru.'

Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddydd Raglen dros Amnest Rhyngwladol:
'Rydym ni wedi bod yn edrych ymlaen i’r gig yma ers tipyn ac mae’n gyfle i atgoffa pobl pa mor bwysig yw hi i ddiogelu’n hawliau dynol yma yng Nghymru fel y mae ym mannau anghysbell y byd.'

Dywedodd Fflur Dafydd a'r Barf: 'Bydd hon yn noson wych o gerddoriaeth ac rydym yn falch i berfformio yn y digwyddiad hwn sy’n cysylltu â materion hawliau dynol hollbwysig y mae’r grym gennym i newid- ac i wisgo’r crys t gorau ar y Maes.'

Ymholiadau’r cyfryngau i Sue Dye ar 07976325863
Cathy Owens ar 02920 786415 neu 07738 718638

Nodiadau i Olygyddion

1. Mae’r gig yn y Maes B, Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Park Place, Caerdydd am 8.00yh - 2.00yb. Yn perfformio mae Cerys Matthews, Fflur Dafydd a’r Barf, Gai Toms, ac Al Lewis.

2. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006,a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal. Mae’n eiriolaeth annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol, a’i nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, meithrin cysylltiadau da rhwng pobl ac hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.

Mae gan y Comisiwn stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

3. Symudiad o bobl gyffredin led led y byd yw Amnest Rhyngwladol sy’n sefyll dros  ddynoliaeth a hawliau dynol.