Recriwtio a hysbysebu
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr eich trin chi’n llai ffafriol nag eraill ar sail hiliol neu oherwydd eich rhyw, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, neu grefydd neu gred, wrth hysbysebu swyddi neu yn ystod y broses recriwtio.
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef gwahaniaethu, efallai y byddwch chi’n gallu cyflwyno achos o wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn y cyflogwr neu’r asiantaeth recriwtio. Efallai bydd y CEHR yn gallu gweithredu ar eich rhan.
Hysbysebion swyddi
Ni ddylai hysbysebion swyddi wahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd na chyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft, os bydd hysbyseb am swydd yn nodi neu’n awgrymu y dylai ymgeisydd fod o ryw neu genedligrwydd arbennig, fe allai hynny fod yn anghyfreithlon. Mae’r un peth yn wir am oedran, ond gellir cyfiawnhau cyfyngiadau oedran weithiau. Fodd bynnag, rhaid i gyflogwyr gyfiawnhau pob cyfyngiad oedran am resymau gwrthrychol.
Mae deddfwriaeth iechyd, diogelwch a lles yn amddiffyn pobl ifanc mewn gwaith ac yn cyfyngu ar yr oedran y maent yn gallu dechrau gweithio. Cyn cyflogi gweithiwr ifanc, hynny yw, gweithiwr dan 18 oed, rhaid i gyflogwyr wneud asesiad risg sy’n ystyried ffactorau arbennig. Mae’r rhain, er enghraifft, yn cynnwys asesu unrhyw ddeunyddiau ffisegol, biolegol a chemegol y bydd y gweithwyr yn eu trafod. Efallai bydd yr asesiad risg yn dangos nad yw’n rhesymol i gyflogi gweithiwr ifanc.
Enghraifft
Rhaid i ddiffoddwyr tân fod yn 18 oed o leiaf cyn y gallant ymuno â’r Gwasanaeth Tân. Nid oes yna gyfyngiad oedran hynaf ac mae rhai yn ymuno â’r gwasanaeth yn eu pedwardegau. Gan ystyried peryglon y swydd, gellir cyfiawnhau hysbysebion swyddi sy’n dweud mai dim ond gweithwyr dros 18 mlwydd oed sy’n gallu ymgeisio.
Gall aelodau o’r cyhoedd herio hysbysebion sy’n gwahaniaethu mewn llys neu dribiwnlys, a gall y CEHR weithredu ar eich rhan. Os byddwch chi’n gweld hysbyseb yr ydych chi’n credu sy’n gwahaniaethu ar sail un o’r pethau a restrir uchod, gallwch gysylltu â ni gyda’r wybodaeth. Mae cyfyngiadau amser caeth ar geisiadau i dribiwnlys ac mae’n bwysig cyflwyno’r cais yn gyflym. Gan amlaf, rhaid i gais cael ei dderbyn gan dribiwnlys o fewn tri mis i’r digwyddiad yr ydych chi’n gwneud cwyn amdano.
Back to top^
Recriwtio
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn erbyn ymgeisydd am swydd ar sail ei oedran, anabledd, hil, cred, cyfeiriadedd rhywiol neu ryw yn unrhyw ran o’r broses recriwtio – mewn disgrifiadau swydd, manylebau’r person, ffurflenni cais, yn ystod cyfweliadau, mewn profion neu wrth lunio’r rhestr fer.
Er enghraifft, ni ddylai ffurflenni cais ofyn am fanylion nad ydynt yn berthnasol i’r swydd, fel gwlad enedigol neu gyfeiriadedd rhywiol (heblaw pan fydd y cwestiynau hyn ar ffurflenni monitro sy’n cael eu gwahanu oddi wrth y ffurflenni cais cyn yr asesiad). Yn ystod cyfweliad, gallai gofyn cwestiynau ynglŷn â bwriad menyw i ddechrau teulu, neu ofyn i ymgeisydd p’un ai’r ydynt yn meddwl y byddant yn teimlo’n “gartrefol” yn y sefydliad, fod yn dystiolaeth o wahaniaethu.
Fodd bynnag, gall cyflogwr ofyn a oes gennych chi anabledd fel y gallant wneud trefniadau arbennig i chi fynychu cyfweliad. I gael gwybod mwy ewch i. . .
Find out more about disability and the law. (English text)
Nid oes rheidrwydd ar gyflogwr ddangos ei fod wedi cyflogi’r ymgeisydd gorau i’r swydd. Fodd bynnag, dylai pob cyflogwr gadw cofnodion a fydd yn ei alluogi i gyfiawnhau ei benderfyniadau dros ddewis ymgeiswyr arbennig a gwrthod eraill pe bai’n cael ei herio.
The former Commission for Racial Equality’s code of practice on employment contains useful information on this and other areas, which may also be relevant to issues other than race. (English text)
Rhaid i gyflogwyr ddangos bod pob dewis yn cael ei wneud ar sail tystiolaeth wrthrychol o allu’r unigolyn i wneud y swydd yn foddhaol, ac nid ar ragdybiaethau neu ragfarn ynglŷn â hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, cred neu oedran. Nid yw’n debygol y bydd cyflogwr yn dweud wrthych ei fod wedi eich gwrthod am y rhesymau hyn. Ond os ydych chi’n credu bod yna dystiolaeth o wahaniaethu, efallai y byddwch chi’n gallu cyflwyno achos yn erbyn y cyflogwr.
I gael mwy o wybodaeth am gyflwyno achos ewch i . . .
Find out more about taking legal action. (English text)
I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau cyflogwyr yn ystod recriwtio, edrychwch ar Cyflogwyr: hysbysebion swyddi a recriwtio:
Find out more about employers’ legal responsibilities when recruiting.
Beth gall cyflogwyr ei ofyn ynglŷn â’ch oedran? Darllenwch ganllawiau Age Concern ynglŷn â chwilio am swydd
Go to the Age Concern website to read Age Concern’s guidelines .
Back to top^
Pan fydd gwahaniaethu’n gyfreithlon
Mewn ychydig o amgylchiadau arbennig, fe all fod yn gyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu wrth recriwtio pobl.
Fel rheol, bydd yr amgylchiadau hyn yn ymwneud â nodweddion arbennig y swydd, er enghraifft:
-
castio cymeriad o oedran arbennig mewn drama neu ffilm, lle gallai fod yn gyfreithlon ystyried actorion o oedran tebyg yn unig
-
penodi rhywun i roi cyngor wyneb yn wyneb i ddioddefwyr trais, lle byddai’n rhesymol i hysbysebu’n benodol am fenyw.
Gelwir y rhain yn ofynion galwedigaethol dilys neu gymwysterau galwedigaethol dilys. I gael mwy o wybodaeth ewch i...
Back to top^