Diswyddo, dileu swydd ac ymddeol
Diswyddo a dileu swydd
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr ddiswyddo gweithiwr, neu ddewis gweithiwr i ddileu ei swydd, ar sail hil, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred.
Mae hefyd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl oni bai y gellir cyfiawnhau hyn dan y gyfraith, er enghraifft, os yw’r anabledd yn golygu na allwch chi wneud prif ran eich swydd mwyach, hyd yn oed os bydd addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud, ac os nad oes unrhyw swyddi eraill y gallwch chi eu gwneud i’r cyflogwr hwnnw.
Gall cyflogwr eich diswyddo’n deg ar sail:
Fodd bynnag, er mwyn i ddiswyddiad fod yn deg, rhaid i gyflogwr ymddwyn yn rhesymol a dilyn y gweithdrefnau cywir.
Gwybodaeth wefan ‘ACAS’ ar y ddulliau cywir.
Mae diswyddo dan rai amgylchiadau yn cael ei ystyried yn annheg yn awtomatig, fel y rheiny ar sail:
-
beichiogrwydd a chyfrifoldebau rhiant amrywiol: ni ellir diswyddo unigolyn am gymryd, neu ofyn am amser o’r gwaith ar gyfer absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb riant, neu amser o’r gwaith i ofalu am ddibynnydd
-
gofyn am gael gweithio’n hyblyg
-
gwrthod gweithio ar y Sul os ydych chi’n weithiwr mewn siop neu gwmni betio (yn amodol ar rai amodau arbennig)
-
ymddeoliad, os ydych chi wedi gofyn i beidio ag ymddeol ac nad yw eich cyflogwr wedi ystyried eich cais.
Os byddwch chi’n ymddiswyddo o swydd am eich bod wedi dioddef gwahaniaethu yn eich erbyn, ac felly’n cael eich gorfodi i ymddiswyddo i bob pwrpas, gallai gael ei ystyried yn “ddiswyddiad deongliadol” ac efallai byddwch chi’n gallu cyflwyno achos i dribiwnlys cyflogaeth. (Gweler Oes gennyf achos?)
Pryd y mae’n rhaid i mi ymddeol?
Yr oedran ymddeol rhagosodedig yw 65 oed ar gyfer dynion a menywod ar hyn o bryd, ond gall cyflogwyr bennu oedrannau ymddeol uwch neu is na hyn. Rhaid i gyflogwyr eich hysbysu am y dyddiad y bwriedir i chi ymddeol yn ysgrifenedig o leiaf chwe mis o flaen llaw.
Gallwch chi ymddeol cyn 65 os byddwch chi’n cytuno hyn gyda’ch cyflogwr, ond ni fydd hyn yn effeithio ar oedran pensiwn ymddeol y wladwriaeth.
Os bydd cyflogwr yn ceisio gwneud i chi ymddeol cyn 65, efallai y byddwch chi’n gallu hawlio diswyddiad annheg. Ond os bydd eich cyflogwr yn pennu oedran ymddeol arferol is na 65, rhaid iddo allu cyfiawnhau hynny – er enghraifft, os yw gofyniad oedran yn ofyniad dilys ar gyfer y swydd.
Efallai y bydd cyflogwr yn gwrthod eich cyflogi os ydych chi dros 65, neu’n hŷn na’i oedran ymddeol arferol, neu os ydych chi o fewn chwe mis i’r oedran hwnnw.
Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i waith gwirfoddol di-dâl, oni bai ei fod yn rhan o gwrs hyfforddi.
Os ydych chi eisiau aros yn y swydd ar ôl 65, gallwch chi ofyn am gael gwneud hynny. Rhaid i’r cyflogwr ystyried eich cais, ond nid oes rhaid iddo ei ganiatáu. Rhaid i chi wneud eich cais o leiaf tri mis cyn y dyddiad ymddeol, a rhaid i’r cyflogwr gwrdd â chi i drafod eich cais a rhoi ei benderfyniad i chi yn ysgrifenedig (ond nid oes rhaid iddo roi rheswm i chi).
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau ymddeol ewch i wefan Age Concern
I gael gwybodaeth am gyfrifoldebau cyflogwyr mewn perthynas ag ymddeol ewch i wefan Acas.
Back to top^
Wedi i chi adael
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred, hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio iddo bellach.
Gall hyn ddigwydd os yw eich cyflogwr yn:
-
rhoi geirda sy’n gwahaniaethu i chi
-
aflonyddu arnoch mewn ffordd sy’n deillio o’ch cyflogaeth gydag ef, neu sydd â chysylltiad agos â’r gyflogaeth honno.
Darllenwch Geirda: beth gall eich cyn-gyflogwr ei ddweud amdanoch chi? Darllenwch Geirda: beth gall eich cyn-gyflogwr ei ddweud amdanoch chi?
Back to top^