Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cwmpasu Lloegr, yr Alban a Chymru, ond nid Gogledd Iwerddon. Mae gan y comisiwn swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caeredin, Glasgow, Llundain a Manceinion. I gael manylion cysylltu, ewch i cysylltu â ni.
Yr Alban
Gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn yr Alban yw sicrhau bod amcanion, gweledigaeth a strategaeth y Comisiwn yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n ymateb i anghenion yr Alban ac yn cefnogi arferion da ledled y sefydliad. Lleolir y tîm yng Nghaeredin a Glasgow ac mae’n gweithio’n agos â chomisiynydd yr Alban, Morag Alexander, a phwyllgor yr Alban.
Cymru
Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru swyddogaeth gref o ran materion a gadwyd yn ôl a materion datganoledig, gyda chomisiynydd dros Gymru a Phwyllgor Cymreig statudol sy’n gwneud penderfyniadau. Mae gennym sylfaen gadarn i adeiladu arno yng Nghymru gan fod yna ddyletswydd statudol eisoes yn bodoli i hyrwyddo cyfle cyfartal.