Gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau 

Ein gweledigaeth

Cymdeithas wedi’i seilio ar degwch a pharch.  Pobl sy’n hyderus ym mhob agwedd ar eu hamrywiaeth.

Ein cenhadaeth

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw hyrwyddwr annibynnol cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.  Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r comisiwn yn herio rhagfarn ac anfantais ac yn hyrwyddo pwysigrwydd hawliau dynol.

Mae’r comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsrywiol, ac yn annog cydymffurfiad â’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Er mwyn cyflawni newid effeithiol, mae’r comisiwn yn defnyddio dylanwad ac awdurdod er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn parhau i fod ar frig yr agenda i’r llywodraeth a chyflogwyr, y cyfryngau a chymdeithas.  Byddwn ni’n ymgyrchu dros newid cymdeithasol a chyfiawnder.

Trwy weithredu’n uniongyrchol a meithrin partneriaethau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae’r comisiwn yn ysgogi trafodaeth ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Mae’r comisiwn yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sector gwirfoddol a chyhoeddus ac i unigolion hefyd.

Trwy ddatblygu dealltwriaeth ar sail tystiolaeth ar achosion ac effeithiau anghydraddoldeb ar bobl ledled Prydain, bydd y comisiwn yn llais awdurdodol dros ddiwygio.

Ein blaenoriaethau

Dadansoddi, diffinio a thargedu heriau cydraddoldeb a hawliau dynol allweddol  - Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dadansoddi a mesur anghydraddoldeb ym mhob cyfnod o fywydau pobl er mwyn creu sylfaen gadarn o wybodaeth a thystiolaeth i lywio’n gwaith polisi a gorfodi’r gyfraith.

Newid polisi ac arferion sefydliadol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ochr yn ochr ag economi effeithlon a deinamig - Bydd y Comisiwn yn ceisio trawsnewid polisïau ac arferion adrannau llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau sector preifat gan ddefnyddio ein swyddogaeth fel corff galluogi, darbwyllo a gorfodi. Byddwn yn dangos sut mae hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o gymorth i greu gwasanaethau cyhoeddus gwell, busnesau ffyniannus ac economi effeithlon a chynhyrchiol.

Bydd y Comisiwn hefyd yn llunio memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda phob un o’r prif arolygiaethau gwasanaethau cyhoeddus, gan annog dull strategol o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda gwasanaethau cyhoeddus.

Cynnwys, grymuso ac ymgysylltu â’r cyhoedd, yn enwedig pobl o gymunedau ac ardaloedd difreintiedig - Mae’r Comisiwn am roi cyfle i unigolion gyfranogi’n llawn yn ein democratiaeth leol a chenedlaethol, yn ogystal â mewn cymunedau lleol.

Rhagweld newid cymdeithasol, datblygu naratifau newydd, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd mewn ffyrdd sy’n cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol - Bydd y Comisiwn yn comisiynu ymchwil i’w gynorthwyo i ddeall yn llawn y grymoedd sy’n creu anghyfartaledd ym Mhrydain. Bydd y Comisiwn yn defnyddio’i waith i gyflwyno achos cryf am yr angen i roi hawliau dynol yng nghraidd diwylliant Prydain ac i ddangos sut mae hawliau dynol yn adlewyrchu gwerthoedd hanfodol tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac annibyniaeth. Bydd y Comisiwn hefyd yn gweithio’n unol â newid cymdeithasol i sicrhau ymrwymiad o degwch ac amrywiaeth ar hyd a lled Prydain.