Arweinydd Tîm Llinell Gymorth - Caerdydd 

 

 

Read this page in English

Rhannu swydd 3 diwrnod yr wythnos / 21 awr - Dros gyfnod mamolaeth (hyd at 12 mis)

Cyflog : £26,800 (Pro-rata)

Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, gan weithio i ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol a meithrin cysylltiadau da, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Mae'r Tîm Llinell Gymorth yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar faterion yn ymwneud â gwahaniaethu a hawliau dynol.

Bydd deiliad y swydd yn rhoi arweinyddiaeth gref i Weithredwyr ac Arbenigwyr Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac yn rheoli'r ffordd y bydd y Tîm Llinell Gymorth yn darparu'r gwasanaeth o ddydd i ddydd. Mae'r tîm yn cynnwys chwe Arbenigwr a thri Gweithredwr.

Yn ddelfrydol bydd gennych ddealltwriaeth o hawliau dynol, cyfraith cydraddoldeb / gwahaniaethu neu wybodaeth eang am ddatganoli yng Nghymru.

Bydd gennych sgiliau arwain, cyfathrebu a dadansoddi rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymhellwr tîm cryf gyda'r gallu i fynd i'r afael â sefyllfaoedd anodd a sensitif yn y ffordd briodol.

Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn cynnig lwfans gwyliau hael, cynllun pensiwn gwasanaeth sifil a buddiannau eraill.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi'u cwblhau yw: hanner dydd 11 Chwefror. Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd yr wythnos sy'n dechrau 3 Mawrth.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Shona Macdonald ar 0161 829 8355 neu anfonwch e-bost i recruitment@equalityhumanrights.com

Am fanylion llawn am y swydd a gwybodaeth am sut i wneud cais ewch i www.equalityhumanrights.com Gallwn roi manylion swyddi i chi mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch. Os byddwch am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol i'ch galluogi i gwblhau'r broses o wneud cais, cysylltwch â ni ar 0161 829 8348 (Rhif minicom 0161 829 8341).

Mae  disgrifiad swydd a manyldeb person ar gael yn Saesneg yn unig