Un o heriau mawr yr unfed ganrif ar hugain yw sut rydym yn byw gyda’n gilydd: mae mor ddifrifol â newid yn yr hinsawdd ac yn fater sydd angen rhoi sylw iddo yn syth.
Yn garreg filltir ar y ffordd i Brydain decach, mwy cyfartal, daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd i rym ar 1 Hydref 2007.
Mae’r comisiwn newydd yn gweithio tuag at ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da, gan sicrhau fod pawb yn cael yr un cyfle i gymryd rhan mewn cymdeithas.
Mae’r comisiynau blaenorol - y Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, a’r Comisiwn Hawliau Anabledd - wedi gwneud datblygiadau aruthrol, gan wneud Prydain yn wlad decach. Ond mae angen gwneud llawer mwy.
Mae’r comisiwn newydd yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan y comisiynau hyn i sicrhau newid a fydd yn fuddiol i rai o’r bobl fwyaf difreintiedig a dilais yn ein cymdeithas.
Mae’r comisiwn newydd yn dod â gwaith y tri chomisiwn cydraddoldeb blaenorol ynghyd ac yn cymryd cyfrifoldeb am yr agweddau eraill at gydraddoldeb hefyd: cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred, yn ogystal â hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithredu, nid yn unig ar ran pobl ddifreintiedig, ond ar ran pawb yn y gymdeithas, a bydd yn gallu defnyddio ei bwerau gorfodi newydd lle bydd angen i sicrhau cydraddoldeb pobl. Mae ganddo fandad hefyd i hyrwyddo dealltwriaeth o’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Corff cyhoeddus anadrannol yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 – sy’n atebol am ei arian cyhoeddus, ond yn annibynnol o’r llywodraeth.