Mae’r adran hon o’r wefan yn trin a thrafod gwahaniaethu ar sail hil.
Mae’n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn erbyn rhywun arall ar sail hil. Yn ôl y gyfraith, mae seiliau hiliol yn cynnwys hil, lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
Ar y tudalennau nesaf, cewch fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail hil, eich hawliau cyfreithiol, a beth ddylech ei wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.
Beth yw gwahaniaethu ar sail hil?
Ym mha feysydd y ceir achosion o wahaniaethu ar sail hil?
Pryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon?