Beth yw'r diffiniad o anabledd?
Yn ôl y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, unigolyn anabl yw rhywun sydd â ‘nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol bywyd bob dydd’.
Mae enghreifftiau’n cynnwys canser, diabetes, sglerosis ymledol a chyflyrau’r galon; namau ar y clyw neu’r golwg, neu anhawster symudedd difrifol; a chyflyrau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu. Mae’n debygol y bydd gan bobl dan yr amgylchiadau hyn a rhai eraill (megis pobl ag anffurfiad ar yr wyneb) hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA) i gael eu diogelu rhag gwahaniaethu. Fodd bynnag, dim ond y llysoedd all ddweud a yw unigolyn penodol wedi’i ddiffinio fel un anabl o dan y ddeddfwriaeth.
Darllenwch trwy’r adran hon am wybodaeth ar addysg, cael gwaith, sut i ddefnyddio eich hawliau, a beth mae’r gyfraith yn ei ddweud a mwy.
Mae fideos Arwyddion Iaith Prydeinig ar y testun hawliau anabledd, ar gael hefyd, ar y safle hon.