Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am waith y Comisiwn i gynorthwyo’r broses o greu deddf cydraddoldeb newydd. Rydym am weld fframwaith cyfreithiol unigol, modern a fydd yn darparu cyfraith gliriach a symlach sy’n gallu mynd i’r afael ag anfantais a gwahaniaethu yn fwy effeithiol.
Ar 26 Mehefin 2008 cyhoeddodd Harriet Harman, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, y Mesur Cydraddoldeb Unigol newydd. Roedd y Comisiwn yn ei groesawu am ei fod yn darparu’r sylfaen ar gyfer deddf tegwch newydd sydd â’r nod o ganiatáu i bawb, waeth beth yw eu cefndir, i gyflawni eu huchelgeisiau.
Darllenwch gynigion y Llywodraeth yn Framework for a Fairer Future (dolen allanol – ffeil PDF)
Mynegodd sefydliadau eraill eu safbwyntiau ar y cyhoeddiad, gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn cymeradwyo modd newydd y Llywodraeth i hyrwyddo cydraddoldeb, tra bo Help the Aged ac Age Concern wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd yn mynegi eu pryder am arafwch y diwygiad. Ar y cyfan cafodd y cynigion groeso gan yr undebau gyda’r TUC yn dweud bod y ddeddfwriaeth yn torri tir newydd.
Ymateb ffurfiol
Ar 21 Gorffennaf 2008 cyflwynodd Trevor Phillips ymateb ffurfiol y Comisiwn i’r cynigion hyn mewn digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid allweddol.
Nid yw’r ymateb yn ymdrin â phob manylyn a phob cymal yn y Mesur Cydraddoldeb newydd, ond mae’n amlinellu’r hyn yr hoffai’r Comisiwn ei weld, gan gynnwys archwilio a diwygio cyfreithiau cydraddoldeb Prydain yn drwyadl a chael contract newydd gyda’r cyhoedd ar degwch. Gellid gwneud hyn trwy roi’r grym yn nwylo’r bobl yn hytrach na biwrocratiaethau anhygyrch, a gallai pobl, ddefnyddio deiseb neu refferendwm lleol i roi gwasanaethau megis ysgolion ac ysbytai ar brawf i weld pa mor deg yw eu triniaeth o’r bobl sy’n eu defnyddio.
Gallwch lawrlwytho copi o ymateb llawn y Comisiwn yma:
Tegwch: Cytundeb newydd gyda’r cyhoedd (Welsh Accessible Word version 228kb)
Cefndir i’r Ddeddf unigol
Mae’r cyfreithiau cydraddoldeb presennol wedi bod yn hynod bwysig, ac mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, a Deddf Gwahaniaethu a sail Anabledd 1995 wedi’u grymuso a’u hymestyn dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Cyflwynwyd cyfreithiau newydd hefyd i ymdrin â gwahaniaethu ar sail crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol ac oed.
Ond mae hyn yn golygu bod y ddeddfwriaeth wedi mynd yn gymhleth ac yn anodd ei defnyddio. Dylai cael deddfwriaeth unigol yn eu lle ddarparu diogelwch gwrth-wahaniaethu symlach a mwy cyson. Yn ogystal, mae amodau a disgwyliadau cymdeithasol, gwleidyddol a chyfreithiol yr oes bellach yn wahanol iawn i’r hyn yr oeddent pan luniwyd y cyfreithiau presennol. Dylai deddf gydraddoldeb newydd fodloni’r amodau a’r disgwyliadau newydd hyn, a chyhoeddi bod hawliau i gydraddoldeb a diogelwch rhag gwahaniaethu annheg yn rhan annatod o’n cyfansoddiad.
Ym mis Chwefror 2005 cyhoeddodd y llywodraeth y byddai Adolygiad o’r Gyfraith Gwahaniaethu yn cael ei gyflawni. Nod yr Adolygiad oedd ystyried cyfleoedd i greu fframwaith deddfwriaeth cydraddoldeb cliriach a symlach. I ddechrau cynhaliwyd yr adolygiad ochr yn ochr â’r Adolygiad o Gydraddoldebau, a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2007.
Cyhoeddodd tîm Adolygiad o’r Gyfraith Gwahaniaethu y Llywodraeth ei bapur gwyrdd ym mis Mehefin 2007, gan amlinellu ei argymhellion ar gyfer deddf cydraddoldeb unigol i Brydain. Cynhaliwyd cyfnod o ymgynghori ffurfiol gyda’r rhanddeiliaid, ac mae’r ymatebion bellach yn cael eu hystyried gan dîm y llywodraeth, wrth iddo fwrw ati i lunio mesur cydraddoldeb, a maes o law, y ddeddf ei hun.
Ymatebion i Bapur Gwyrdd yr Adolygiad
Dilynwch y dolenni isod i weld ymateb y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i bapur gwyrdd yr Adolygiad, yn ogystal ag ymatebion yr hen gomisiynau a rhanddeiliaid cydraddoldeb eraill.