Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Hysbysiad o ymchwiliad dan adran 16
Deddf Cydraddoldeb 2006
Hysbysir trwy hyn y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal ymchwiliad i’r sectorau prosesu cig a dofednod yng Nghymru a Lloegr, o fewn y cylch gorchwyl a nodir isod.
Yn unol ag Atodlen 2 paragraff 2 Deddf Cydraddoldeb 2006, hysbysir trwy hyn bod y Comisiwn yn bwriadu cynnal Ymchwiliad i’r Sectorau Prosesu Cig a Dofednod yng Nghymru a Lloegr wrth gyflawni ei ddyletswyddau dan adrannau 8 a 10 Deddf Cydraddoldeb 2006 a chan weithredu’r pwerau a roddir i’r Comisiwn dan adran 16 y Ddeddf honno.
Dyma gylch gorchwyl yr Ymchwiliad:
(1) Ymchwilio i’r arferion cyflogi a recriwtio yn y sectorau prosesu cig a dofednod yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â gweithwyr asiantaeth, dros dro ac annodweddiadol ac i ganfod pa mor gyffredin y maent ymysg yr hiliau gwahanol.
(2) Canfod telerau, amodau a threfniadau gwaith y gweithwyr yn y sectorau hyn a maint y gwahaniaeth a’r rhesymau wrth wraidd y gwahaniaeth yn y modd y caiff gweithwyr asiantaeth, dros dro ac annodweddiadol eu trin o gymharu â gweithwyr sy’n cael eu cyflogi’n barhaol neu’n uniongyrchol
(3) Asesu i ba raddau mae’r gwahaniaeth yn y modd y caiff gweithwyr eu trin yn gysylltiedig â’u cenedligrwydd neu darddiad cenedlaethol.
(4) Archwilio achosion, canlyniadau ac effaith y gwahaniaeth yn y modd y caiff grwpiau gwahanol o weithwyr eu trin, gan gynnwys yr effaith ar gydlyniant cymdeithasol.
(5) Pennu arferion da mewn perthynas â chyflogi a recriwtio ac ystyried a ellid eu rhoi ar waith ledled y diwydiant cyfan.
(6) Asesu sut y gellir mynd ati i sicrhau cyfle cyfartal gwirioneddol i weithwyr hen a newydd yn y sector pecynnu cig.
(7) Gwneud argymhellion fel sy’n briodol.
Diffiniadau:
Bydd ‘cyflogaeth annodweddiadol’ yn cynnwys gweithwyr asiantaeth, gweithwyr sy’n cael eu diffinio yn eu contractau fel rhai ‘hunangyflogedig’, gweithwyr dros dro ac unrhyw weithwyr eraill nad ydynt yn rhai parhaol.
Mae’n bosibl y bydd y cylch gorchwyl yn cael ei ddiwygio i ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law.
Dylai unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd am gynnig sylwadau ar y cylch gorchwyl hysbysu’r Comisiwn erbyn dydd Gwener 7 Tachwedd 2008, trwy e-bostio neu ffonio Nassima Marref ar 0161 829 8354.
Cynhelir yr Ymchwiliad hwn yn unol ag Atodlen 2 y Ddeddf Cydraddoldeb, sydd â’r effaith ganlynol:
- Galluogi’r Comisiwn i gyflwyno rhybudd i unrhyw unigolyn neu sefydliad yn mynnu eu bod yn cyflwyno gwybodaeth, dogfennau neu dystiolaeth yn eu meddiant (Atodlen 2, paragraffau 9 a 10);
- Ei gwneud hi’n ofynnol i’r Comisiwn gynhyrchu adroddiad ar ganfyddiadau’r Ymchwiliad (Atodlen 2, para 15); a
- Galluogi’r Comisiwn i gyfeirio argymhellion at unrhyw barti (Atodlen 2, para 16).
T. Phillips
Cadeirydd,
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
17 Hydref 2008