|Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol...cefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.
 
 

Pwy ydyn ni 

 

O 1 Hydref 2007, bydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) yn mabwysiadu rolau a swyddogaethau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal, gyda chyfrifoldebau newydd am gyfeiriadedd rhywiol, oedran, crefydd a chred a hawliau dynol.

Mae nifer o’r rhai a oedd yn gweithio yn y comisiynau cydraddoldeb blaenorol wedi ymuno â ni yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd, gan greu corff sydd â chyfoeth aruthrol o brofiad a gwybodaeth am gydraddoldeb a gwahaniaethu ar sail hil, rhyw ac anabledd.

Rydym wedi recriwtio arbenigwyr ym maes cyfeiriadedd rhywiol, oedran, crefydd a chred a hawliau dynol hefyd er mwyn cwmpasu holl agweddau ein cyfrifoldebau.

Y tîm

Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw Trevor Phillips; Dr Nicola Brewer yw’r brif weithredwraig. Cefnogir y ddau gan dîm uwch reoli sy’n cynnwys pobl amlwg ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol. Cefnogir y rhain gan bwyllgorau statudol dros anabledd, yr Alban a Chymru.

I weld rhestr lawn o’n comisiynau, gyda lluniau a bywgraffiadau, ewch i’n tudalen comisiynau.

Comisiynau blaenorol

Cyn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, roedd yna dri chomisiwn cydraddoldeb: y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.

I gael gwybod mwy am hanes y sefydliadau hyn, ac i gael mynediad i fersiynau archifiedig o wefannau y cyn sefydliadau hyn, ewch i Ein hanes