Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb rydym yn ymdrin â hwy. Er mwyn gwneud hyn rydym am i chi gyflwyno unrhyw sylwadau am ein gwasanaeth i ni, a dweud wrthym pan fydd pethau’n mynd o le. Rydym am eich cynorthwyo i ddatrys eich cwyn cyn gynted â phosibl.
Os mynegir unrhyw anfodlonrwydd gyda’n gwasanaeth caiff hyn ei drin fel cwyn sy’n galw am ymateb. Rydym yn gwrando ar eich cwynion, yn eu trin o ddifrif ac yn dysgu ganddynt er mwyn gwella ein gwasanaeth yn barhaus.
Mae’r polisi hwn ar gael hefyd yn y Gymraeg. Am y polisi neu os hoffech ymateb i gŵyn mewn iaith arall neu fformat (fel Braille, Gryno Ddisg sain, print mawr neu Hawdd i’w Ddarllen) cysylltwch ag un o’n llinellau cymorth.
Lawr lwytho fersiwn ‘Word’ o Bolisi a Gweithdrefn Cwynion.