|Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol...cefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.
 
 

Ein hanes: y CHA, CCH a CCC 

 

Daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fodolaeth ar y cyntaf o Hydref 2007. Mae’n cyfuno cyfrifoldebau a phwerau’r tri gyn gomisiynau cydraddoldeb.

pocket money - EOC advert

Etifeddiaeth y comisiynau cydraddoldeb

Cyn y Comisiwn Cydraddol deb a Hawliau Dynol, roedd gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hilol (CCH), y Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA), a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal (CCC) y cyfrifoldeb dros hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, anabledd a rhyw ym Mhrydain.

Mae’r sylwadau canlynol yn cynrychioli dim ond cyfran fechan o’r gwerthfawrogiad y mae llawer wedi mynegi am waith, a chyflawniadau ‘r CCH, CHA a CCC.

"Bydd y gwaith a wnaethpwyd  gan y tri comisiwn cydraddoldeb gwreiddiol Prydain yn esiampl i Ewrop o’r hyn y gellid ei gyflawni gan waith caled,synnwyr cyffredin ac ewyllys da"

Barbara Follett
Gweinidog dros Gydraddoldeb 

"Mae deddfwriaeth wedi bod yn bwysig iawn. Ond etifeddiaeth flaenaf y comisiynau oedd sicrhau bod Prydain yn symud tu hwnt i lythyren y ddeddf ac yn cofleidio gwir natur cydraddoldeb."

Trevor Phillips
Cadeirydd, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

"Mae’r comisiynau etifeddiaeth wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r genedl yr ydym heddiw. Yn 2007, mae Prydain yn wlad lle mae menywod yn chwarae rhan gwerthfawr a chydnabyddedig yn y gweithle, lle  mae pobl yn dadlau gwahaniaethau hyd yn oed yng nghysgod bygythiadau diogelwch cenedlaethol; a lle y deallir trafferthion pobl ag anabledd yn fwy fwy ar draws cymdeithas"

Cherie Booth QC

Gwefannau comisiwn etifeddiaeth

Am gyfnod cyfyngedig bydd gwefannau comisiwn etifeddiaeth ar gael i chi bori dros hen ymgyrchoedd, ymchwiliadau a chyhoeddiadau.

Ni ddiweddarwyd cynnwys y safleoedd hyn ers Medi  2007, felly mae’n bosib nad ydynt bellach yn gyfreithiol gywir a ni ddylid eu derbyn yn adlewyrchu polisïau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Maent yma am gyfnod cyfyngedig yn unig.

Safle iaith Gymraeg y Comisiwn Hawliau Anabledd
Safle iaith Gymraeg y Comisiwn Cyfle Cyfartal
Safle'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (Saesneg yn unig)