|Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol...cefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.
 
 

Hawliau newydd yn golygu taith rhagorach i deithwyr ag anabledd 

 

28 Gorffennaf 2008

Heddiw bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn ymuno â Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ac Andy Klom, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Cymru mewn digwyddiad a gynhelir gan Faes Awyr Caerdydd i lansio cynigiad newydd ar gyfer teithwyr âg anabledd.Bydd mesurau a ddaeth i rym ar Orffennaf 26 yn rhoi hawliau newydd i fyny at 15 miliwn o bobl anabl - a’r rheiny gyda thrafferthion symud - wrth deithio trwy feysydd awyr yn Ewrop.

Mae’r rheoliad Ewropeaidd newydd ar deithio awyr yn gorfodi meysydd awyr i ddarparu gwasanaethau sy’n galluogi teithwyr âg anabledd fedru  mynd ar ac esgyn oddi ar awyrennau a theithio rhwng hedfaniadau. Mae’r hawliau yn gymwys i bobl â thrafferthion, fel rhywun sy wedi torri ei goes, ac mae’n rhoi ‘r hawl iddynt gael cymorth unwaith eu bo nhw ar yr awyren.

Dyma ail gam mesurau sy wedi ‘u cynllunio i ddiogelu teithwyr âg anabledd wrth hedfan ac i greu cysondeb safon ar draws Ewrop.Y llynedd daeth yn anghyfreithlon i gwmnïau hedfan, asiantaethau teithio neu drefnyddion teithio i wrthod tocyn teithio ar sail anabledd neu i wrthod mynediad ar awyren i berson âg anabledd sydd â thocyn dilys a sedd gadw, heblaw am resymau diogelwch.

Yn ymarferol golyga hyn :

  • y dylai fod man ar wyneb y maes awyr sy wedi’i farcio’n glir ac sy’n hawdd ei gyrraedd lle gall bobl anabl a PRM  gyflwyno eu hunain yn hawdd a chael y cymorth angenrheidiol wrth y ddesg gofnodi a phellach.
  • y bydd rhoi gwybodaeth hanfodol ynglŷn â’r daith, mewn ffurfiau hygyrch yn nawr yn ofyniad cyfreithlon.
  • na ddylid codi tâl ar bobl sydd angen cymorth a dylai cŵn cymorth cofrestredig cael eu derbyn yn ddidâl hefyd.
  • y dylai’r holl bersonél dderbyn hyfforddiant ar gydraddoldeb anabledd ac ymwybyddiaeth o anabledd fel y bo ganddynt  ddealltwriaeth well o angenhion pobl âg anabledd.

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gyfrifoldeb o hyrwyddo’r rheoliad newydd i’r cyhoedd ac mae gan unrhyw berson sy’n teimlo bod y gyfraith wedi ei thorri, yr hawl i gwyno atom. Bydd y Comisiwn yn trafod a monitro’r cwynion ac yn cynnig cymodi lle bo’n briodol. Gallwn gynnig gefnogaeth wrth annog  bobl i ymgymryd â gweithredu sifil a gallwn gyfeirio’r mater i’r Awdurdod Hedfan Sifil sydd â’r grym i roi’r gyfraith arnynt. Os yn euog gall drefnydd maes awyr, cwmni hedfan, asiantaeth teithio neu drefnydd teithio wynebu dirwy ddiderfyn.

Meddai Kate Bennett, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Cymru:

'Dyma’r ad-drefniad unigol mwyaf yng ngwasanaeth cwsmer meysydd awyr ac rydym yn credu y daw’r rheoliad newydd hwn â gwelliannau gwirioneddol ar gyfer pobl ag anabledd a’r rheiny â thraferthion symud.

Dylai hefyd fod yn dda ar gyfer busnes. Mae gan bobl anabl wrth eu hunain grym gwario o ryw £80 biliwn ac mae pobl nad oeddent gynt yn meiddio hedfan oherwydd ofn problemau, yn awr yn gallu’i gyflawni’n llawn hyder.  

Mae gan y Comisiwn gryn bwerau i sicrhau bod y diwydiant hedfan yn cyflawni’i  orfodaeth a byddwn yn monitro’r cwynion yn ofalus ac yn eu defnyddio i wella gwasanaeth.

Rwy’n falch iawn bod Maes Awyr Caerdydd yn  awr  yn cymryd camau positif i wella profiad hedfan i deithwyr âg anabledd.'

Meddai Patrick Duffy, rheolwr gyfarwyddwr ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd,

'Dyma ddatblygiad pwysig aruthrol ym maes teithiau awyr gan bydd y newidiadau’n rhoi sicrwydd i deithwyr â thrafferthion symud y bydd eu gofynion wedi’u cyflawni. Gyda’r cyfleusterau a’r gwasanaethau newydd ym Maes Awyr Caerdydd rydym yn sicr y bydd teithio trwy’r maes awyr yn brofiad rhagorach ac yn hwyluso teithwyr â thrafferthion symud i deithio â mwy o hyder .'

Ymholiadau’r Cyfryngau i Sophie Howe ar 07980 597367

Nodiadau i Olygyddion

1.   Mae digwyddiad lansio’r Maes Awyr Caerdydd ym Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Llun 28 Gorffennaf 2008 12 – 2yp

2.   Mae astudiaethau achos ar gael ar gyfer  cyfweliad.

3.   Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, sy’n mabwysiadu rolau a swyddogaethau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.Mae’n eiriolaeth annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol, a’i nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, ac hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol. 

4.   Rheoliad(EC)Rhif 1107/2006  yn arddodi gorfodaeth cyfreithlon newydd ar drefnyddion maes awyr, gludyddion awyr, eu hasiantaethau neu drefnyddion teithio. Mae’r Rheoliad yn golygu bod meysydd awyr yn awr â’r cyfrifoldeb o ddarparu cymorth i deithwyr âg anabledd.Hyn fydd y safon gyffredinol dros feysydd awyr Ewrop gyfan.

5.   I adlewyrchu’r Rheoliad Ewropeaidd newydd, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi diwygio’i chyfarwyddyd i ddiwydiant teithio awyr  y DU ar sut i wella mynediad i deithiau awyr i bobl âg anabledd. Cyhoeddir y cyfarwyddyd hwn a elwir yn Gôd Ymarfer Mynediad i Deithiau Awyr  yng Nghorffennaf i gydfynd â phan ddaw’r Rheoliad i’w grym a gellir ei gael ar wefan yr AD yn www.dft.gov.uk

6.   Mae gwybodaeth lawn ar gael ar wefan y Comisiwn yn www.equalityhumanrights.com/airtravel