Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhyddhau ffigyrau heddiw sy’n dangos fod y bwlch cyflog ar sail rhyw yng Nghymru wedi cynyddu i 12.7%, i fyny o 10.3% yn 2007.
Fe ddywedodd Kate Bennet, Cyfarwyddydd Cenedlaethol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru:
“Rydym yn pryderu i weld fod y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod wedi llydanu yng Nghymru. Mae gan hyn effaith fawr ar incwm teuluol. Fe ddaw mewn amser pan fod pawb yn teimlo’r gwasgiad a bod pob ceiniog yn cyfri. Ni all menywod fforddio hyn.
Rydym yn benderfynol i ddarganfod pam fod y bwlch cyflog yn gwaethygu a pha gamau y gellid eu cymryd i amddiffyn cyflog menywod. Fe fyddwn yn ymdrechu i wthio cyflog teg i fenywod at frig yr agenda wleidyddol.
Mae’n fwy pwysig nag erioed i gyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod yn talu menywod yn deg a’u bod yn gweithredu i gau’r bylchau cyflog.
Mae’r ffigwr yng Nghymru yn cymharu â bwlch o 17.1% ar lefel Prydain sydd i fyny o 17.0%.
Mae’r bwlch cyflog ar sail rhyw i weithwyr rhan amser wedi cynyddu i 33.7%, o 29.2% yn 2007.
Nodiadau
Mae’r ffigyrau wedi’u seilio ar gymedr cyfartalog.
Mae’r ystadegau yn dod o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol - The Annual Survey of Hours and Earnings (ASHE)
Mae’r Annual Survey of Hours and Earnings (ASHE) yn darparu gwybodaeth ynglŷn â lefelau, dosbarthiad a’r gwneuthuriad o enillion ac oriau sydd wedi eu talu gan gyflogwyr o fewn diwydiannau, galwedigaethau a rhanbarthau.
I weld y ddogfen lawn, edrychwch ar; Annual Survey of Hours and Earnings
I weld y datganiad i’r wasg gan y Comisiwn ar ffigyrau’r DU, gwelwch
http://www.equalityhumanrights.com/en/Pages/default.aspx